Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mehefin 6ed-10fed

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beti a'i phobl - Geraint Lovgreen

pencampwriaeth - championship
ar droed - afoot
ennil lle - to qualify
brwd - keen
llwyddo - to succeed
cynghrair - league
annisgwyl - unexpected
creu argraff - to make an impression
crefydd - religion
addoli - to worship

a dw i'n gobeithio eich bod chi â diddordeb mewn pêl-droed? Gyda phencampwriaeth Ewro 2016 ar droed yn Ffrainc, mae'n gyfnod cyffrous i Gymru. Y tro diwetha' i ni ennill lle yn yr Ewros oedd yn 1976, credwch neu beidio! Fore Sul diwetha', y canwr, cerddor a’r bardd Geraint Lovgreen oedd gwestai Beti George. Mae Geraint hefyd yn gefnogwr pêl-droed brwd ac mae o yn Ffrainc ar hyn o bryd yn gwylio tîm Cymru yn chwarae. Ond, ydy Geraint wir yn meddwl bod gan Gymru siawns i lwyddo yn Ffrainc?

Byd y Belles - Eryl a Hannah Davies

cyfres - series
amddiffynnwr - defender
sylweddoli - to realise
o ddydd i ddydd - from day to day
gweithio mas - to work out
penderfynol - determined
atgofion - memories
gwasanaeth - service
yn glou - quickly

...dyna i chi gefnogwr brwd go iawn! Fasech chi'n talu £700 i weld eich tîm chi'n chwarae pêl-droed? Rhaid i mi gyfaddef, mi faswn i ar ôl disgwyl pedwar deg o flynyddoedd i Gymru ennill lle yn yr Ewro! Dan ni'n aros ym myd pêl-droed gyda'r clip nesa' 'ma hefyd. Ddydd Iau diwetha', dechreuodd cyfres newydd ar Radio Cymru o'r enw 'Byd y Belles'. Mae'r gyfres yma'n edrych ar y merched pwysig ym mywyd rhai o beldroedwyr Cymru. Yn y rhaglen gyntaf, mi gafodd Nia Lloyd Jones sgwrs ag Eryl a Hannah Davies, sef mam a chwaer Ben Davies, amddiffynnwr Cymru a Tottenham Hotspur. Roedd Nia eisiau gwybod pryd wnaeth Eryl sylweddoli ar dalent a photensial Ben yn y byd pêl-droed?

Aled Hughes - Mochyn

amaeth - agricultural
trin - to handle
sialens - challenge
dibynnu - to depend (on)
gwobrwyon - awards
llinell gwaed - bloodline
sbinwch - gilt, young sow
cyngor - advice
adwy - gap, gate
altro - to improve

...pob lwc i Ben Davies a gweddill tîm Cymru yn y bencampwriaeth. Ac o un math o gystadlu i fath gwahanol iawn yr awn ni nesa'. Dach chi erioed wedi dangos anifail mewn sioe amaeth? Wel, mae gan Aled Hughes sialens fawr haf 'ma, sef mynd i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd i ddangos mochyn. Does gan Aled ddim syniad ar hyn o bryd ar sut i drin moch, ac mae’n dibynnu ar Ela Roberts i’w ddysgu. Peidiwch â phoeni, mae Ela yn gwybod ei stwff! Mae hi'n cadw moch efo'i gwr ar eu fferm yn Llwyndyrys ac mae eu selsig wedi ennill pob math o wobrwyon. Y cam cyntaf i Aled fore Mawrth oedd dewis mochyn...

Codi'r To - Rhaglen 1

rhochian - grunt
cynllun - scheme
adfywio - to regenerate
cymunedau - communities
tlotaf - poorest
canolfannau - centres
difreintiedig - deprived
cyfleoedd - opportunities
ehangu gorwelion - to broaden horizons
elwa - to gain, profit

"...Aled Hughes yn fan 'na yn trio dysgu sut i drin mochyn. Dyna sialens â hanner! Ac o swn rhochian mochyn i gerddoriaeth. Ddydd Llun diwetha' aeth Lisa Jên i Ysgol Gynradd Maesincla yng Nghaernarfon i glywed am gynllun arbennig o'r enw 'Codi'r To'. Mae'r cynllun yn defnyddio cerddoriaeth i wella bywydau plant ac i adfywio cymunedau. Dydy'r rhan fwyaf o'r plant ddim yn medru chwarae offeryn, ond gyda help y cynllun mae Owain Roberts, y prifathro, yn gobeithio bydden nhw'n magu diddordeb mewn cerddoriaeth ac yn datblygu pob math o sgiliau da eraill."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ffwtbol a Fflêrs: Cofio Arwyr ’76

Nesaf

Ewro 2016 - Bordeaux