Y rhaglen olaf yn rownd yr 8 olaf, 14 Gorffennaf 2013:ÌýCapel Pen-y-graig, Croesyceiliog
Am y tro cyntaf erioed yn hanes Y Talwrn, bu’n rhaid stopio’r ricordiad heno, a hynny pan oedd y Meuryn lai na hanner ffordd drwy ei eiriau o groeso i’r timau a’r gwrandawyr!
Am funud wedi saith o’r gloch, taflwyd drws festri Capel Pen-y-graig led y pen ar agor, a chamodd tri o bobl ddigon amheus i’r festri orlawn. Yn ôl eu golwg, roedd yn amlwg nad oedd na thalwrn na chân nag englyn yn golygu dim iddynt.
A phwy oedd y tri phererin?
Wel, neb llai na’r Prifeirdd Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones a John Gwilym Jones! Doedd neb yn disgwyl dim gwell gan Mererid a Dylan, wrth gwrs, ond cafwyd siom fod y cyn-Archdderwydd John Gwilym yn cadw cwmni mor ddifanyrs.
Eu cosb nhw oedd gorfod aros i wrando ar y ricordiad, yn hytrach na phrysuro i’r noson bingo yr oeddent ar ei thrywydd, mae’n debyg! Ond, o leia, fe gawsant ornest werth chweil i’w diodde, a honno rhwng timau’r Cŵps a Thanygroes, y ddau dîm yn awyddus i gipio lle yn y rowndiau cyn-derfynol.
Dros y blynyddoedd, mae Tanygroes wedi bod yn dîm llwyddiannus (pencampwyr 1997) ac yn dîm â chanddo ddilynwyr, llond bws o gefnogwyr Ìýa dweud y gwir. A ble bynnag mae’r bws hwnnw’n glanio, mae Tanygroes yn chwarae gartre! Ac fe dalodd y tîm deyrnged i’r cefnogwyr hynny yn un o’u limrigau:
Pan fydd y testunau’n
ddi-synnwyr,
A’r Meuryn yn marcio’n
ddi-dostur,
Ein ffans wna’n clodfori
Os ennill neu golli;
Mae’n handi cael criw o
gefnogwyr.
Tanygroes
Capten Tanygroes yw Emyr Oernant, a hyd nes dyfod Philippa Gibson i’r rhengoedd, ef oedd cywyddwr y tîm, doed a ddêl, ac mae e’n para i weithio cywyddau da. Yn wir, yr wythnos hon, roedd ganddo gywydd personol iawn yn cyfeirio at y cyfnod y bu oddi ar yr hewl, fel petai. Y testun oedd ‘cywydd diolch am rodd’. Beth gafwyd gan Emyr oedd cywydd ‘diolch i ddau gyfaill am helpu mas, wedi colli trwydded’:
A yfa win, gwyn ei fyd;
Os yfwch, cewch loes
hefyd.
Tra hawdd yw colli
trwydded
A rhoi’r Saab hwnt
drysau’r sied
I oeri mewn seguryd
Tu mewn gyda’i beiriant
mud.
I’m carchar, daeth
Samariaid
I roi help fel tae o
raid.
Iago wyt yn gyfaill gwâr
A Dai wyt halen daear
A heno mynnaf innau
Ddiolch – diolch i
chwi’ch dau.
Tipyn o golled i dîm Tanygroes fu cilio Ken Griffiths i’r cysgodion. Bu’r ffarmwr hwn yn un o sêr y gyfres dros y blynyddoedd, ac mae’n gaffaeliad i unrhyw dîm oherwydd ei allu i ganu nid yn unig ar y mesurau caeth a’r rhai rhydd, ond hefyd yn y cywair llon a’r cywair lleddf, fel bo’r angen. ÌýEf yw awdur y cwpled hwnnw yr oedd Gerallt mor hoff o’i ddyfynnu fel esiampl o gwpled diguro:
Dim ond un all estyn llaw
â hoelion drwy ei
ddwylaw.
Gobeithio, wir, ei fod e’n para i hogi ei awen ym mherci ffarm y Graig uwchlaw’r môr ym Mwnt.
Ken oedd telynegwr Tanygroes, a chyda’r dasg honno, o bosib, y gadawoddÌý y bwlch mwyaf o’i ôl. Ond ‘bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn’... A chafwyd mwy nag un ymdrech gan Danygroes ar y testun ‘Awr’, gan gynnwys y delyneg hon:
Cofiaf haul fy nyddiau
cynnar
Yn cynhesu pridd y
ddaear:
O mor fyr yr oriau hynny
A ni’r plant yn methu
cysgu.
Methu cysgu yr wyf eto
A gwynegon yn fy mlino:
Ar y godir mae
mawrolaeth,
Oer a hir yw oriau
hiraeth.
Wythnos nesaf, bydd yr ornest gyn-derfynol gyntaf, a honno rhwng Y Tir Mawr ac Aberhafren. Ac ymhen pythefnos, bydd yr ail ornest, a honno rhwng Y Tywysogion a’r Cŵps.
I glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'rÌýcerddi ddaeth i'r brigÌýewch iÌýwefanÌý
- Ìý