Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 10 Gorffennaf 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Y Talwrn - c芒n ysgafn

gwawrio - to dawn
y fagddu - utter darkness
ffasiwn lanast - such a mess
cythraul - devil
ymbalfalu - to grope
yn llechu - lurking
rhagdybio - to presuppose
wedi ei thrawsnewid - has been transformed
disylwedd - insubstantial
offrymu - to offer sacrifice

...efo clip o'r Talwrn, a'r ddau d卯m oedd yn cystadlu yr wythnos diwetha oedd Y Tir Mawr a Chriw Y Ship. Dan ni'n mynd i wrando ar un o'r tasgau, sef ysgrifennu c芒n ysgafn heb fod yn fwy nag ugain llinell. Roedd rhaid iddyn nhw sgwennu c芒n am 'Yr Ystafell sb芒r'. J么s aeth gyntaf ar ran y Tir Mawr, ac yna cawn ni glywed Arwel 'Pod' o Griw鈥檙 Ship.

Wyn ar Wynoddiaeth - etifeddu

etifeddu - to inherit
ffrwythloni - to fertilize
esblygiad - evolution
cenedlaethau gwahonynol - different generations
genynnau - genes
cyndeidiau - forefathers
nodwedd - feature
isymwybodol - subconcious
gwynto - to smell
atgynhedlu - to reproduce听

Wel, be ddigwyddodd i Yncl Huw tybed? Ond nid stori Yncl Huw aeth 芒 hi'r tro 'ma. Criw y Ship enillodd y rownd yna efo naw a hanner o farciau a naw marc gafodd cerdd Y Tir Mawr. Mae'r clip nesa ma mor wahanol ag sy'n bosib i glip y Talwrn. Rhaglen llawn gwybodaeth ydy Wyn ar Wyddoniaeth sydd i'w chlywed ddydd Sul ar Radio Cymru. Yr wythnos diwetha buodd Wyn Davis yn siarad efo'r gwyddonydd Gethin Thomas. Pam ein bod ni mor debyg i'n rhieni? Dyna'r cwestiwn roedd Gethin yn ceisio'i ateb

Geraint Lloyd - Alwyn Samuel

hel y gwartheg - to gather/drive the cattle
gweddill - the rest
profiad anhygoel - incredible expereience
braw - fright
tymheredd - temperature
gwerthfawori - to appreciate
medru dioddef - able to deal with
coelio - credu
fflio - hedfan

"Dw i ddim yn siwr am y busnes gwynto, neu ogleuo, ma chwaith. Ddim dyna'r ffordd oedden ni'n chwilio am gariad yn Llanberis ers talwm! Nos Fercher mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo ffermwr ifanc am wartheg ac am ffensys. Be sy mor arbennig am hynny meddech chi? Wel, mae Alwyn Samuel, sy'n dod o Ynys M么n yn wreiddiol, yn gweithio yn Awstralia rwan, ac mae rhaid iddo fo ddefnyddio awyren i weld a ydy ffensys y fferm angen eu trwsio ai peidio. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

Rhaglen Iola Wyn - problemau garddio

dail - leaves
gorchuddio - to cover
cynhebrwng - funeral
calch - lime
cynrhonyn - maggot
gwywo - to wither
dyfrio - to water
pridd - soil
gwyth茂en - vein
lleithder - moister

Oedd eisiau mwy na ffensys i gadw'r Llewod mewn trefn yn Awstralia wythnos diwetha yndoedd? Sgwn i ydyn nhw'n tyfu bresych neu gabaits yn Awstralia? Mae'n nhw'n eu tyfu nhw yn Llanrwst yn sicr, ac mae Grace Roerts yn falch iawn o'i chabaits hi. Tan eleni hynny yw. Mae nhw rhywbeth mawr o'i le yn ei gardd hi eleni a dydy'r cabaits ddim yn tyfu fel y dylen nhw. Sgen Grace ddim syniad be sy'n bod ar ei llysiau hi. Lwcus felly bod neb llai na'r garddwr enwog Medwyn Williams yn westai ar raglen Iola Wyn ddydd Gwener. Sh芒n Cothi oedd yn cyflwyno'r rhaglen, ac mi ffoniodd Grace i s么n am ei phroblem fawr. Mi fasai Medwyn yn siwr o wybod yr ateb, on' fasai?

Daf a Caryl - C芒n y Babis

mwyn yw'r awel - the breeze is mild
twym - cynnes
gorwedd ar ei boch - lying on her cheek
rhuo - roaring
syllu - staring
cadw stwr - being noisy
enfys - rainbow
gwrthod - refusing
yn ddel - yn bert
crwtyn - bachgen

"Dyna ni ynde, dydy'r meistr ddim yn gwybod yr ateb pob tro, nac ydy? Wedi dweud hynny tasai gen i broblem efo fy nghabaits i yn y dyfodol, mi faswn i'n gwybod am o leia tri neu bedwar o bethau y gallai fod o'i le efo nhw, diolch i Medwyn, ac i Grace wrth gwrs. Ac rwan at g芒n y Babis ar gyfer mis Mehefin. Gareth Bonello sy'n canu, ac fel arfer mae hi'n g芒n hyfryd iawn. Mwynhewch..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 11

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 12