Main content

Beth nesaf i Gymru yn yr ymgyrch i gyrraedd Ewro 2020?

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yr wythnos diwethaf mi geisiais dynnu sylw at yr hyn a allai ddigwydd i helpu Cymru igymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Ewro 2020.

Ennill eu dwy gêm oedd yr ateb mwyaf dealladwy , ond ddigwyddodd mo hyn. Erbyn heddiw, tydi pethau ddim llawer cliriach, na fawr gwaeth erbyn hyn, gyda’n gobeithion yn dibynnu ar y ddwy gêm nesaf o'u blaenau, sef Azerbaijan i ffwrdd a Hwngari adref, ym mis Tachwedd.

Ond, fel sy’n digwydd mae’n benbleth sy'n rhy anodd i mi ei ddatrys, wrth geisio gwneud synnwyr o’r drefn o gymhwyso, mae yna ystyriaethau eraill wedi codi.

Gan fod Yr Wcráin wedi curo Portiwgal, mae’r gwefannau cymdeithasol yn mynd yn hollol wallgo’ drwy honni fod hyn yn golygu fod Cymru wedi llwyddo i ennill lle mewn un o'r gemau ail gyfle.

Ar y llaw arall, mae eraill yn honni na chyflawnir hyn oni bai fod Awstria yn llwyddo i ennill pwynt yn ychwanegol yn eu gr诺p hwy , gyda dwy gêm yn weddill, sef Macedonia adref a Latvia oddi cartref.

Os felly, fe ddylwn ddechrau cynhyrfu, gan y gall y pwynt yma i Awstria fod yn allweddol, ac un hollol bosibl.

Ond, fe fyddai gweld Cymru yn ennill eu dwy gêm yn erbyn Azerbaijan ac yna Hwngari, yn rhoi terfyn ar benwythnos arall o ‘os’, ‘oni bai’ a ‘phetai’, ac yn ein gweld yn chwarae rhywun, yn rhywle, am ail gyfle, fis Mawrth nesaf.

Dydw i ddim am geisio esbonio’r dull yma, sydd yn cynnwys ac ystyried canlyniadau gemau yng Nghynghrair y Cenhedloedd , mae’r ystadegau a’r logisteg wedi fy llwyr ddrysu.

Ta waeth, mae’n amlwg y gallwn barhau i fyw mewn gobaith, un ffordd neu'r llall, a dwi fel chithau yn fwy tebygol o droi unwaith eto am freuddwydio a phendroni a llithro’n ôl at y meddylfryd o ‘os’, ‘oni bai’ a ‘phetai’.

Amser i roi diwedd ar yr holl ddyfalu - os nad ydych chi, wrth gwrs yn gallu esbonio pethau yn well.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gemau Cymru - Rowndiau Rhagbrofol yr Ewros

Nesaf