Main content

Gemau Cymru - Rowndiau Rhagbrofol yr Ewros

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Cyn y gêm nos Iau draw yn Slofacia, dyma oedd sefyllfa Gr诺p E ar gyfer cymhwyso i rowndiau terfynol Euro 2020.

Fe fyddai dwy fuddugoliaeth i Gymru (yn Slofacia) ac yna gartref yn erbyn Croatia nos Sul yn ddigon i weld Cymru yn cyrraedd safleoedd y cymhwyso, er y gallai fod yna nifer o amrywiaeth yn yr ‘os’,’onibai’ a ‘phetai’.

Ar y llaw arall, fe fyddai colli yn y ddwy gêm mwy neu lai yn rhoi terfyn ar ein gobeithion yn llwyr.

Yna, fe allai Croatia gymhwyso petaent yn curo Hwngari ac yna Cymru - er y byddai hynny’n dibynnu ar ganlyniadau eraill.

Felly’r bore ‘ma, beth ydi'r sefyllfa yn dilyn y gemau rhwng Slofacia a Chymru, a Croatia a Hwngari?

Yn gyntaf, mae gobeithion Cymru yn parhau yn fyw, diolch i berfformiad disgybledig yn yr hanner cyntaf a welodd Cymru yn mynd ar y blaen diolch i beniad Kieffer Moore (a ddangosodd arweinyddiaeth ar y blaen, a oedd yn llawer mwy effeithiol na’r hyn a welwyd yn ddiweddar) oddi ar groesiad Dan James

Yna, cododd Slofacia y tempo yn yr ail hanner gan daro'n ôl yn fuan diolch i foli Juraj Kucka. Sodrodd hyn Cymru yn ôl ar eu sodlau, ond lleihawyd hyn pan gafodd Norbert Gyomber ei anfon o'r cae ar ôl derbyn ail gerdyn melyn a gadael Cymru fel y tîm a fyddai’n fwy tebygol o ennill.

Ond, ddaeth y gôl ddim, gan adael Cymru yn bedwerydd yn y gr诺p, pwynt y tu ôl i Hwngari, ond gyda gem mewn llaw a record ben i ben gwell yn y gemau dros Slofacia.

Llwyddodd Croatia i guro Hwngari o dair gôl i ddim, felly gem allweddol bwysig nos Sul yng Nghaerdydd yn erbyn Croatia.

Ar wahân i hyn, yn ôl i ‘os’, 'hwyrach' a 'phetai' y bydd pethau dros dro.

Yn y cyfamser. Llwyddodd merched Cymru i gadw eu gobeithion hwy yn fyw o gyrraedd Euro 2021 drwy guro Belarws o un gôl i ddim, diolch i Rachel Rowe a ddychwelodd i’r tîm ar ôl goresgyn cyfnod o flwyddyn heb chwarae yn dilyn anaf. Trwy ddyfalbarhad a dygnwch, dangosodd y merched benderfyniad ac ymroddiad ardderchog a dalodd ar ei ganfed gydag wyth munud yn weddill wrth i Rower sicrhau buddugoliaeth bwysig.

Mae hyn yn gadael Cymru yn yr ail safle yng Ngr诺p C, gyda saith pwynt wedi eu casglu allan o naw, dau bwynt y tu ôl i Norwy ar y brig, ond yn agor y bwlch Cymru a Belarws, sydd yn y trydydd safle, i bedwar pwynt.

Mwynhewch y penwythnos a pheidiwch â chymhlethu pethau gydag ystadegau llawn gobeithion, efallai, o bosib, a pwy a 诺yr?!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf