Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Mai 20fed i 26ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bore Cothi - Stradivarious

ffidil - violin
y fraint - the privilege
prin a gwerthfawr - rare and valuable
sain - sound
gwerthfawrogi - to appreciate
cyn-arweinydd - former conductor
agweddau - aspects
unigryw - unique
swmpus - bulky
gwasgar - dispersed

"...y ffidil, ond ddim unrhyw hen ffidil gyffredin, cofiwch, ond y Stradivarius. Dyma ffidil enwoca'r byd mae'n debyg, ac un o'r bobl sydd wedi cael y fraint o chwarae'r ffidil yma ydy Charlie Lovell Jones. Bore Llun mi gafodd Shan Cothi sgwrs efo Charlie ynglyn â’r ffidil prin a gwerthfawr iawn yma. Roedd Shan wedi darllen erthygl oedd yn dweud bod ffidil modern yn creu gwell swn na'r ffidil glasuron yma. Be oedd barn Charlie tybed?"


Cofio - Huw

sgwn i - tybed
taid - tad-cu
lloeau - calves
chwanneg - more
fwn'cw - over there
gwartheg - cattle
tarw - bull
gwyllt - wild

"Diddorol ynde, a wyddoch chi bod Charlie wedi arfer cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd dros y blynyddoedd? Dw i'n siwr bydd llawer iawn o'r bobl ifanc fydd yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod yr wythnos yma yn cael eu hysbrydoli gan ei lwyddiant o. A sgwn i fydd y bachgen bach glywn ni yn y clip nesa ma yn cystadlu yn eisteddfodau'r dyfodol? Bore Llun mi fuodd John Hardy yn ‘cofio’ unwaith eto, ac y tro hwn mi glywon bwt o raglen Hwyl ar y Mastiau. Dyma Merfyn Davies yn holi Huw Jones o Fetws Gwerful Goch sydd yn dair oed ac yn helpu taid ar y fferm. "


Dewch Am Dro - Llanbrynmair

gweithdy - workshop
creadigol - creative
cyfoes - contemporary
yn ara' deg - yn araf iawn
arddangosfa - exhibition
cyflogi - to employ
amrywiaeth - variety
annibynnol - independent
anghyffredin - unusual
cynnyrch - products

"Dyna dalent sy gan Huw ynde, mor hyderus am fachgen tair oed. Dw i'n siwr byddwn ni'n clywed mwy amdano yn y dyfodol. Wyddoch chi bod y cyflwynydd oedd yn siarad efo Huw, Merfyn Davies, yn dathlu ei benblwydd dydd Mercher diwetha yn wythdeg mlwydd oed? Penblwydd hapus iawn iddo fo ynde? Yn y rhaglen Dewch am Dro mae Rhys Meirion yn cwrdd â chymeriadau difyr iawn wrth grwydro Cymru.
Yn ail raglen y gyfres, amser cinio ddydd Iau, mi aeth Rhys i Lanbrynmair ac yno mi gaeth o gwmni Hywel Annwyl, Hedd Bleddyn, Sarah Reast a llawer mwy. Dyma i chi flas ar sgwrs Rhys efo Sarah Reast"


Aled Hughes - Eidalwyr Cymru

Eidalwyr - Italians
dathliad - celebration
cysylltiadau - connections
tramor - overseas
rhyfedd - strange
magwraeth - upbringing
diwylliant - culture
Eidaleg - Italian language

"Blas yn fan'na ar gymeriadau a gweithgarwch ardal Llanbrynmair ym Mhowys. Ym Mhencoed ger Penybont mae Eisteddfod yr Urdd eleni. Mae hi'n ardal, fel llawer o ardaloedd de Cymru, lle aeth llawer o Eidalwyr i fyw ynddi a dechrau busnesau gwerthu hufen iâ a chaffis. Un o'r caffis Eidalaidd mwya enwog yn y de oedd Caffis Bracci, a yna oedd thema sioe blant yr Eisteddfod eleni. Er mwy cael ychydig o hanes yr Eidalwyr yng Nghymru cafodd Aled Hughes gwmni Daniela Antoniazzi a Dr Elin Jones..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cwpan IrnBru