Main content

Cwpan IrnBru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Hwyrach i chi gofio am gystadleuaeth Cwpan Her yr Alban sef Cwpan yr IrnBru a gynhaliwyd y tymor diwethaf pan gafodd y Seintiau Newydd a’r Bala wahoddiad gan gymdeithas bel droed yr Alban i gymryd rhan ynddo.

Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys timau o’r Alban Gogledd Iwerddon a Chymru. Collodd y Bala yn erbyn Alloa Athletic ond aeth y Seintiau ar dipyn o daith gan guro Forfar Athletic a Livingston cyn colli i St. Mirren yn y rownd gyn derfynol.

Eleni bydd y Seintiau yn ôl, gyda Chei Conna wedi cael eu gwahodd hefyd.

Yn ogystal â hyn, bydd y gystadleuaeth y tymor nesaf yn cynnwys timau o Weriniaeth Iwerddon, ac mae Sligo Rovers a Bray Wanderers eisoes wedi derbyn y gwahoddiad ac yn ymuno a Linfield a Crusader o Felfast, dau dîm gyda llaw a fydd yn chware gemau cyfeillgar yn erbyn y Bala gyda Linfield yn ymweld â Maes Tegid yr wythnos Nesaf (Sadwrn 17 Mehefin, a’r Bala yn teithio i Ogledd Iwerddon i wynebu Crusaders - y ddwy gêm yn cychwyn am ddau o’r gloch)

Bydd yna hefyd dimau o chwaraewyr o dan ugain oed o glybiau uwch gynghrair yr Alban yn cymryd rhan hefyd yn ogystal â thimau o Gynghreiriau Ucheldir ac Iseldir yr Alban (Highland a Lowland League) .

Bydd y cystadlu yn cychwyn yn ystod ganol yr wythnos gyntaf ym mis Awst, gyda’r timau Cymreig yn cychwyn yn yr ail rownd sydd i'w gynnal yr wythnos ddilynol, sef dydd Mawrth neu Fercher Awst 16 /17. Yna bydd y trydydd, pedwaredd a rownd yr wyth olaf yn ystod yr hydref, cyn torri am y gaeaf a’r rowndiau cyn derfynol ym mis Chwefror a’r ffeinal (a enillwyd gan Dundee United y llynedd) ar y penwythnos, Mawrth 25 neu 26. (y dyddiadau i gyd i'w cadarnhau yn swyddogol).

Wrth gyhoeddi’r trefniadau ar gyfer y tymor nesaf, dywedodd Neil Doncaster, Prif Weithredwr Uwch gynghrair pêl droed yr Alban, "Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda'n ffrindiau yn yng Nghynghrair Airtricity Iwerddon, ac yn ymestyn cynnes i Bray Wanderers a Sligo Rovers i Gwpan yr Irn-Bru yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus iawn o dan y fformat newydd.

Cred Doncaster fod pêl droed yr Alban yn arwain ffordd arloesol ar draws ffiniau a bod y trefniadau yma yn debygol o fod yn rhan allweddol o dirwedd pêl-droed yn y blynyddoedd i ddod. Cred hefyd fod y gystadleuaeth yma wedi datblygu perthynas gref a chadarnhaol gyda'u cymheiriaid yng Ngogledd Iwerddon a Chymru y tymor diwethaf, a’i fod yn edrych ymlaen at wneud yr un peth gyda'r Gynghrair Iwerddon trwy gynnwys y timau o Bray a Sligo yn 2017/18.

Ategwyd y farn gan Adrian Troy, sef Cyfarwyddwr Marchnata Irn-Bru, wrth iddo ddweud fod “cystadleuaeth Cwpan Irn-Bru ar ei newydd wedd wedi profi i fod yn llwyddiant go iawn gyda chwaraewyr, rheolwyr a chefnogwyr y tymor diwethaf wrth iddynt fwynhau'r profiad cyffrous o gystadlu yn erbyn gwrthwynebwyr gwahanol, yn ogystal â theithio i lawr i Gymru a throsodd i Ogledd Iwerddon”.

Ychwanegodd ei fod yn falch iawn o groesawu Sligo Rovers a Bray Wanderers o Gynghrair Iwerddon a bod y penderfyniad yn ymestyn yr elfen drawsffiniol mewn dull arloesol ac unigryw o fewn trefn pêl-droed Prydain ac Iwerddon.

Sefydlwyd Cwpan Her yr Alban yn ystod tymor 1990/91 i ddathlu canmlwyddiant Cynghrair Pêl-droed Yr Alban, ac mae wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers hynny (ac eithrio 1998/99).

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i ddysgwyr Mai 20fed i 26ain

Nesaf