Gydag ychydig ond mwy na mis wedi ei chwarae yn y tymor pêl droed newydd, mae helynt sydd wedi rhoi ysgytwad i'r gêm wedi codi. 67 o ddyddiau yn unig y parhaodd Sam Allardyce fel rheolwr Lloegr cyn iddo gael ei ddal allan yn ymddwyn mewn ffordd annerbyniol, ac mae digon wedi ei ddweud am hyn dros y dyddiau diweddar.
Yn sgil yr honiadau yma, mae cyfeiriadau am lwgrwobrwyo wedi, ac yn parhau i gael ei wneud.
“Bungs" ydi'r gair sydd yn cael ei ddefnyddio, sef honni fod pobl o fewn y gêm yn derbyn tal anghyfreithlon am arwyddo chwaraewyr drwy gyd weithio gydag asiant.
Tydi hyn yn ddim byd newydd, a hwyrach mai dyma'r amser i mi gyfaddef fy mod innau hefyd yn fy amser, wedi bod yn euog o dderbyn”bung”.
Mae’n beth amser ers y digwyddiad ac mae’n mynd yn ôl i'r adeg pan oeddwn yn hyfforddi timau pêl droed bechgyn ysgolion Sir y Fflint, o dan 15 oed.
Yr adeg honno, doedd yna ddim academïau pêl droed ar gael, ac felly roedd y sgowtiaid yn mynychu gemau er mwyn cael blas ar y talent oedd ar gael, cyn gwahodd y gorau i gyfres o sesiynau ymarfer, neu 'trials' gyda'u clybiau yn ystod gwyliau'r ysgol.
Drwy hyn fe ddaeth pawb a oedd yn cynnal timau o'r fath yma i adnabod y sgowtiaid yn dda, gyda hwythau yn holi am gefndir y chwaraewyr ac oes oedd eu rhieni yn bresennol yn y gêm. Gwaith hawdd oedd ateb eu cwestiynau neu eu hanfon at fam a thad a oedd yn dangos diddordeb yn natblygiad eu mab.
Felly ar fore braf yn yr Hydref, aeth hogiau Sir y Fflint draw i chwarae i Amlwch yn erbyn tîm ysgolion Ynys Môn, ac yn ôl yr arfer, yno roedd y sgowtiaid. Ar ôl ychydig o gyfarchion , "Sut mae?", ac yn y blaen, daeth un o'r cynrychiolwyr ataf, yn cario bag papur brown yn ofalus yn ei law. Yn ddistaw iawn, ac yn annibynnol o’r sgowtiaid eraill, daeth un ataf yn llawn parch a diolch gan fy hebrwng yn ddistaw i’r ochor.
"Rhywbeth bach i chi am eich trafferth” meddai - "Da chi di bod mor dda yn fy helpu , cymrwch hwn fel gwerthfawrogiad”, ac fe wthiodd y bag papur brown i’m llaw gan symud yn sydyn i gyfeiriad rhieni rhyw chwaraewr a oedd yn ei lygadu.
A dyna fi , efo bag papur brown yn fy llaw, a rhywbeth am fy nhrafferth i mewn ynddo! Bung! Be nesa, cyffesu i Gymdeithas Bel Droed Cymru, yr awdurdodau addysg, neu'r heddlu fy mod wedi cael fy llwgrwobrwyo?
Ond, cyn gwneud unrhyw beth o'r fath , gwell fyddai edrych faint oeddwn wedi cael fy nhalu!
Dychmygwch fy syndod wrth weld mai chwe wy ffres oedd yn y bag, ac roedd yn amlwg fod y cyfaill yn cadw ieir adre a bod y wyau yma wedi cael eu dodwy'r bore hwnnw!
Stori wir, a thra mae Sam Allardyce wedi cael ei adael gydag ôl wy ar ei wyneb yn sgil yr honiadau diweddar am ei ymddygiad, fe lwyddais i i fwyta'r dystiolaeth heb unrhyw gynrychiolydd cudd o’r wasg na’r cyfryngau fod yn bresennol!
Dyna ni ‘bung’ ydi ‘bung’, ond does gen i ddim gofid fydd yr awdurdodau yn dod ar fy ôl i fy nghosbi am fynd i gymaint o drafferth i helpu swyddogion timau pêl droed Lloegr yn yr oes a fu!