Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Medi 23-30ain 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Aled Hughes - Hen eiriau Cymraeg

hel - to collect
cyffiniau - area
llyfn - smooth
gwydryn - a glass
coblyn o air da - a heck of a good word
wedi bodoli - has existed
bathu geiriau - inventing words
cerbydres haearn - iron carriage
cefn mhen i - the back of my head
(g)arddwrn - wrist

"... mae Geraint Pennant wrth ei fodd yn hel hen eiriau Cymraeg - yn aml iawn geiriau sydd ddim yn cael eu defnyddio'r dyddiau yma. Ar raglen Aled Hughes fore Llun mi gafodd Aled sgwrs efo Gerallt a dyma fo'n rhannu un neu ddau o'i hoff eiriau efo ni..."

Melin Bupur - James Andrew Williams

cyfres - series
adlewyrchu - to reflect
morthwyl - a hammer
carchar - prison
wedi chwalu - messed up
blin - angry
be uffern - what the heck
dychryn - frighten
goriadau - keys
llwyth o - loads of

"Wel dyna ni, trontol ac awrlais, geiriau da ynde? Amser cinio dydd Llun roedd ‘na gyfres newydd sy'n ceisio adlewyrchu pob ochr o fywyd Cymru'r dyddiau yma. Dyma i chi hanes James Andrew Williams o Fangor, yn ei eiriau ei hun. Buodd James yn ôl ac ymlaen o'r carchar sawl gwaith dros y blynyddoedd. Y tro diwetha buodd o yn y carchar oedd pan oedd o'n 31 oed a hynny am iddo fo drio lladd chwech o fechgyn efo morthwyl. Dyma James yn rhoi blas i ni o fywyd carchar..."

Injaroc - Supergroup Cymraeg?

diflannu - to disappear
arddulliau cymysg - mixed styles
ar wahân - separately
y gwendid - the weakness
gormod o ddylanwadau - too many influences
llwybr clir - a clear path
cyson - consistent
creu cerddorddiaeth newydd - creating new music
addasu - to adapt
caneuon - songs

"Mi fydd ail raglen y gyfres Melin Bupur i'w chlywed am hanner awr wedi hanner dydd, dydd Llun. Amser cinio dydd Mawrth gaethon ni gyfle arall i glywed hanes y supergroup Cymraeg o'r saithdegau Injaroc. Roedd perfformwyr gorau Cymru wedi dod at ei gilydd gan gynnwys Caryl Parry Jones, Endaf Emlyn, Geraint Griffiths a Hefin Elis. Er iddyn nhw ryddhau un albwm, mi ddiflannodd y band ar ôl blwyddyn. Be aeth o'i le felly? Dyma Caryl yn esbonio..."

Rhaglen Aled Hughes - Dysgu ieithoedd

cyfleu ein teimladau - conveying our feelings
cymeriad - character
Almaeneg - German language
strwythur ieithyddol - linguistic structure
goddefgar - tolerant
diwylliannau - cultures
manteision - advantages
ymarfer yr ymenydd - exercising the brain
cyfoethogi - to enrich
annog - to encourage

"Hanes y band Injaroc yn fan'na gan Caryl Parry Jones. Roedd hi'n Ddiwrnod Ieithoedd Ewropeadd dydd Mawrth diwetha ac felly dyma Aled Hughes yn cael sgwrs efo Mared Gwyn Jones sy'n siarad pump iaith, ac sy'n gweithio ym Mrwsel. Pa mor bwysig ydy dysgu ieithoedd y dyddiau hyn? Dyma oedd gan Mared i'w ddweud... "

Er Cof a Chadw - Angladd

dewis - choosing
angladd - funeral/cynhebrwng
cynhebrwng - angladd
addysg - education
cynhyrchiadau - productions
ar draws y byd - across the world
o ddydd i ddydd - from day to day
chwerthin - laughing
cyfarwyddo - to direct
fy natur i - my nature

"Wel, mae pawb sy'n gwrando ar y podlediad hwn yn siarad o leia dwy iaith yn tydan? Mared Gwyn Jones yn fan'na yn ein hannog ni iddysgu rhagor o ieithoedd. Yn y gyfres Ar Gof a Chadw yr wythnos diwetha clywon ni'r actor Owain Arthur yn dewis chwe chân i'w chwarae yn ei angladd ei hun! Dyma Owain yn cyflwyno ei hun ac yn esbonio pam dewisodd o un o'r caneuon hynny..."

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gorau chwarae - cyd chwarae

Nesaf

Cyrraedd Rwsia a Chwpan y Byd 2018