Main content

Cyrraedd Rwsia a Chwpan y Byd 2018

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Penwythnos gemau cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd. Mae with tim wisoes wedi llwyddo i gymhwyso ar gyfer ffeinals Cwpan y Byd sydd i'w gynnal y flwyddyn nesaf yn Rwsia, sef – Rwsia (fel y gwestywr), Brasil, Iran, Japan, Mecsico, Gwlad Belg, Saudi Arabia a De Korea.

Ond beth am y gweddill?

Sefyllfa gymhleth gyda’r wyth tîm sy’n gorffen yn erbyn y timau hynny sydd wedi gorffen ar y brig, yn y trydydd, pedwerydd, pumed safle yn eu grwpiau, hefyd yn cymhwyso ar gyfer y gemau ail gyfle.

Heno bydd Lloegr yn cymhwyso fel enillwyr gr诺p F os y gwnawn nhw guro Slofacia yn Wembley, tasg sydd yn hawdd i'w disgrifio o'i gymharu â sefyllfa Cymru.

Os gall Cymru ennill yn Georgia, a bod Gweriniaeth Iwerddon yn methu a churo Moldova, yn Nulyn, yna fe fydd Cymru yn sicr o orffen yn yr ail safle. Fodd bynnag, fe all popeth ddibynnu ar y gêm nos Lun rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd! Os gall Serbia guro Awstria, neu Georgia, yna fe fyddant yn sicr o orffen ar frig y gr诺p.

Bydd Gogledd Iwerddon yn gorffen yn yr ail neu'r safle cyntaf yng Ngr诺p C, ond i gymhwyso fel enillwyr fe fydd angen iddynt guro’r Almaen heno, ac yna Norwy dros y penwythnos. Dim ond gem gyfartal sydd angen i'r Almaen ei gyflawni heno, i sicrhau ennill y gr诺p.

Bydd yr Albanwyr yn chwysu gan fod rhaid iddynt guro Slofacia heno, byddai colli yn rhoi diwedd ar bopeth, ond, petai llwyddiant yn dod, yna dim ond Malta a allai sefyll rhyngddynt a gorffen yn yr ail safle.

Bydd yr Iseldiroedd yn chwysu am gymhwysiad gan iddynt, cyn y penwythnos, orwedd yn y trydydd safle, yng Ngr诺p A, oddi tan Ffrainc a Sweden a bydd rhaid iddynt, o leiaf, wneud cystal â Sweden yn y ddwy gêm nesaf os am gadw eu gobeithion yn fyw. Mae hynny’n golygu os fydd Sweden yn curo Luxembourg gartref, bydd rhaid i’r Iseldirwyr ennill oddi cartref ym Melarws, cyn i'r ddau dîm gyfarfod nos Fawrth mewn gem a allai pa un a fyddai’n gorffen yn yr ail safle.

Yng Ngr诺p I, mae Gwlad yr Ia yn hawlio’r ail safle, ond gyda’r un faint o bwyntiau a Croatia, sydd ar y brig. Byddai buddugoliaeth dros Dwrci a’r Wcráin yn ddigon i sicrhau o leiaf lle yn y gemau ail gyfle, ond, rhaid edrych dros yr ysgwydd gan mai dim ond dau bwynt sydd rhwng Gwlad yr Ia, Twrci a’r Wcráin.

Mae Portiwgal, pencampwyr Ewro 2016, yn sicr o le yn y gemau ail gyfle, gyda gem allweddol yn erbyn y Swistir nos Fawrth a all sicrhau mai hwy fydd ar y brig ac yn cymhwyso are u hunion i’r ffeinals, gan adael y Swistir yn yr ail safle.

Gall Bosnia/ Herzegovina gipio'r ail safle yng Ngr诺p H os gallant guro Groeg oddi cartref.

Felly, dyna ni - cymhleth? Ond, mae tro arall i'r stori. Fel y dwedais ar y cychwyn, yr wyth tîm (allan o naw) sydd a’r record orau fydd yn cymhwyso ar gyfer y gemau ail gyfle, gyda’r nawfed yn colli allan. Sefyllfa Cymru cyn y gemau yna? Nawfed yn nhabl y rhai sydd yn brwydro am gymhwyso am yr ail gyfle!

Anghofiwch bopeth arall - mae Cymru’n for o chwys ar hyn o bryd.

Cyn cloi - rhowch sylw i ddwy gêm sy’n cael eu cynnal heno a nos Fawrth. Bydd Syria, er waethaf holl helyntion y wlad, yn chwarae yn erbyn Awstralia dros ddau gymal ar gyfer hawlio gem ddau gymal arall yn erbyn tîm o Gr诺p Gogledd America / Caribî cyn gweld yr enillwyr yn cyrraedd Rwsia. Mae Syria wedi chwarae eu gemau cartref ym Malaysia, naw mil o filltiroedd i ffwrdd, ac felly eto heno.

Dyna stori a fydd yn werth ei dilyn.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Medi 23-30ain 2017

Nesaf