Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Mehefin 3ydd - 10fed 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Aled Hughes - Rafftio

carlamu - galloping
tair tunnell - three tons
digywilydd - cheeky
lli'r afon - the river's current
o ystyried - considering
yn llythrennol - literally
chwifio - waving
suddo - sinking
cythraul - devil
cropian - crawling

"...hanes Aled Hughes a'i dîm yn cymryd rhan mewn ras rafftio ar afon Menai. Roedd yna ddau ddeg chwech rafft yn y ras, ac enw rafft Aled oedd "Ar F'enaid". Roedd yna bump yn nhîm Aled: Dei Tomos, Tudur Owen, Dyl Mei a Dilwyn Morgan. Fyddan nhw'n cyrraedd pen y daith, sef Porthaethwy, yn saff? Yn y clip nesa 'ma maen nhw bron â chyrraedd Pont Borth, a bron iawn â chyrraedd y cei..."


Rhys Mwyn - Nant Gwrtheyrn

llwyddiant rhyngwladol - international success
annog - to encourage
meddygaeth - medicine
cyfeiriad disgwyliedig - the expected route
ymadael - gadael
cefnogi - to support
diogel - safe
hunan-gyflogedig - self-employed
her - a challenge
edmygu - to admire

"Wel mi wnaeth y tîm yn dda yn do? Wn i ddim faint yn bellach fasen nhw wedi mynd, cofiwch, heb i'r rafft suddo. Nos Lun, mi gafodd Rhys Mwyn sgwrs efo'r Dr Carl Clowes. Fo oedd un o'r bobl wnaeth weithio'n galed i sefydlu Nant Gwrtheyrn fel Canolfan Genedlaethol i ddysgu Cymraeg. Ond roedd Rhys eisiau holi am feibion Carl - y ddau ohonyn nhw'n aelodau o'r band enwog Super Furry Animals..."


Bore Cothi - Rhodri Elis Owen

adfer - to renovate
elfennau - elements
hirwyntog a chymleth - longwinded and comlicated
ardal gadwraeth - conservation area
unigryw - unique
ymchwil - research
gwerthfawrogiad - appreciation
cragen - shell
arddull - style
lloriau pren - wooden floors

"Hanes dau o feibion y Dr Carl Clowes yn fan'na. Mae Rhodri Elis Owen wedi bod yn adfer ty ers dros tair blynedd. Mi roedd Shan Cothi am gael gwybod sut aeth o ati i adfer y ty, beth oedd y problemau a beth oedd apêl adfer tai..."

Stiwdio - Canwr y Byd

cantorion - singers
clyweliadau - auditions
yn ychwanegol - extra
mwy o bwysau - more pressure
amrywiol wledydd - a variety of countries
doniau lleisiol - vocal talent
cyflwyniad cerddorol - musical presentation
profiad - experience
llwyfan - stage
cynyddu - to increase

"Rhodri Elis Owen oedd hwnna yn sôn wrth Shan Cothi am y ty mae o wrthi'n ei adfer. Mae cystadleuaeth 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd yn cael ei gyfri yn un o'r cystadlaethau rhyngwladol pwysica i gantorion ifanc. Y mezzo Sioned Gwen Davies fydd yn cynrychioli Cymru yn 主播大秀 Canwr y Byd Caerdydd 2017 a dydd Mercher mi gafodd hi sgwrs efo Nia Roberts am y gystadleuaeth... "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cwpan IrnBru

Nesaf

Hanes T.G. Jones - Everton