Main content

Ail hanner tymor Uwch Gynghrair Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Cychwynnodd ail hanner uwch gynghrair Dafabet Cymru gyda gem llawn cyffro ar Faes Tegid rhwng y Bala a Bangor. Gem a oedd yn fyw ar y teledu ac yn dilyn gem lawn mor gyffrous yng Nghwpan Cymru rhwng Caernarfon a Rhyl yr wythnos flaenorol.

Gyda'r math yma o adloniant a safon uchel o chware ar y cae, mae ail hanner y tymor yn argoeli'n dda.

Heno mae dwy gêm yn sefyll allan a allasai fod llawen mor gyffrous â’r ddwy gêm yma.

Bydd y Bala adref eto, y tro yma yn erbyn Coleg Met Caerdydd sydd eu hunain wedi syfrdanu llawer drwy gyrraedd y chwech uchaf ond sydd ddim yn dangos yr un gallu oddi cartref ac y maent ar eu gemau ar faes y coleg.

Draw ym Mangor bydd cyfle i'r tîm cartref fynd yn well ar ôl colli i'r Bala, drwy guro Cei Connah, ond nid tasg hawdd fydd hon.

Os yw’r Coleg wedi ein syfrdanu drwy gyrraedd y chwe uchaf, mae’r Cei wedi mynd un yn well gan gyrraedd yr ail safle a gosod cyfres o berfformiadau cyson wrth ddringo’r tabl.

Mae’n argoeli’n dda am gyfres o gemau diddorol eraill, a gyda Bangor a Chei Connah yn dangos yr awch a'r awydd i fynd yn dimau llawn amser cyn hir, fe fydd y gêm yma yn arwydd da tuag at eu dyheadau i'r dyfodol.

Ar y llaw arall, fe all y penwythnos yma fod yr un pan fydd y Seintiau Newydd yn cael eu coroni yn bencampwyr a hynny ar gychwyn Chwefror. Fe fyddai buddugoliaeth oddi cartref yng Nghaerfyrddin brynhawn Sadwrn yn cyflawni hyn, a d’oes gen i ddim amheuaeth y bydd hyn yn cael ei wireddu ar Barc Waendew.

A byddai hyn yn sbardun go lew iddynt cyn eu taith i’r Alban y Sadwrn nesaf i wynebu St Mirren yn rownd cyn defynol Cwpan yr Irn Bru.

Ond, peidied hyn a’ch camarwain y bydd yna gystadlu brwd am y safleoedd ar gyfer cymhwyso ar gyfer Ewrop yma yng Nghymru y tymor nesaf gyda Chei Connah a'r Bala ar yr un maint o bwyntiau yn yr ail a’r trydd safle, a Bangor yn agos atynt yn y bedwerydd safle.

Felly, Y Seintiau i gipio’r goron y penwythnos yma?

A digon i gystadlu amdano ymysg gweddill y timau.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i ddysgwyr 30 - 5ed o Chwefror 2017