Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr 30 - 5ed o Chwefror 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Aled Hughes - Carol Williams

adnewyddu - renew
addunedau - vows
priodas arian - silver wedding
sbloets - a bit of a show
sbïo - edrych
dyfalu - to guess
oherwydd - because
morwynion - bridesmaids
dy brofiad di - your experience
chdi - ti

"...glywoch chi ar y newyddion bod y Beckhams wedi adnewyddu addunedau priodas? Wel ddim nhw ydy'r unig rai - bore Mercher mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo rhywun arall wnaeth hynny hefyd sef Carol Williams o Gaernarfon. Pam wnaeth hi benderfynu adnewyddu'r addunedau tybed?..."

Bore Cothi - Enwau afonydd Cymru

Yr Athro - Professor
awydd - desire
Brythoneg - British language
Rhufeiniaid - Romans
syfrdanol - amazing
ffin rhwng tiroedd - boundary between lands
nant - brook
llifo'n llyfn - flowing smooth
creigiau - rocks
twrio - to burrow

"Carol Williams o Gaernarfon yn amlwg wedi mwynhau adnewyddu addunedau ei phriodas. On'd oes yna enwau gwych iawn ar ein hafonydd yng Nghymru d'wedwch? Mae llawer ohonyn nhw'n enwau hen iawn. Ond be ydy ystyr enwau fel Twrch ac Aman? Mae John Williams, hanesydd o Ystradgynlais, yn gwybod yr ateb fel y buodd o'n esbonio wrth Heledd Cynwal... "

Rhys Mwyn - David Lloyd

ymgais - attempt
gwarchod - to protect
deryn brith - a flawed character
iselder - depression
merchetwr - womaniser
eilun y genedl - the nation's idol
cymeradwyo - applause
y gynulleidfa - the audience
mynnu - insisting
yn gyfrifol am ei farwolaeth - responsible for his death

Diddorol ynde? John Williams yn esbonio ystyr rhai o enwau afonydd Cymru wrth Heledd Cynwal ar Bore Cothi ddydd Mawrth diwetha. Dach chi wedi clywed am y canwr David Lloyd? Ella ddim, gan mai yn y pedwardegau oedd o ar ei fwya poblogaidd. Mae Hywel Gwynfryn wedi sgwennu llyfr am hanes bywyd y canwr ac mi fuodd o'n dweud wrth Rhys Mwyn, fel roedd David LLoyd yn cael ei gyfrif yn seren yr adeg honno...

Bethan Gwanas - Y galon

difyr - diddorol
profiadau - experiences
clefyd y galon - heart disease
pendwmpian - snoozing
oni bai am - were it not for
dw i mor falch - I so pleased
lluchio - to throw
gwefus - lip
awn ni rwan - we'll go now
sgynno fi ddim syniad - does dim syniad gyda fi

Hywel Gwynfryn yn fan'na yn sôn am fywyd difyr y canwr David Lloyd. Bethan Gwanas oedd yn eistedd yn sedd Caryl Parry Jones ddydd Iau ac mi fuodd hi'n sgwrsio efo nifer o bobl am eu profiadau nhw o ddiodde o glefyd y galon. Dyma i chi stori un o'r cyfrannwyr -Sarah Tyler Davies...

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Arian i goffrau Y Bala

Nesaf

Ail hanner tymor Uwch Gynghrair Cymru