Main content

Gem Gwlad Belg v Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Perfformiad grymus, amddiffyn disgybledig ac addasu tactegau ar gyfer y ail hanner.

Ie, aeth Cymru i wlad y t卯m a oedd wedi eu dethol fel y bedwaredd gorau yn y byd, gan rwystro Gwlad Belg rhag sgorio.

Mae鈥檙 patrwm y mae Cymru wedi ei osod, sicrhau amddiffyn cadarn, cyd chwarae deallus drwy ganol y cae, a thorri yn gyflym gan chwilio am Gareth Bale ynghyd a chyflymder Hal Robson Kanu ar y blaen wedi gosod stamp bygythiol a chredadwy i鈥檞 gem.

Credaf mai cryfder y t卯m , yn ogystal 芒 doniau Bale a Ramsey, ydi'r ffaith eu bod yn ymateb yn dda i dactegau craff y t卯m hyfforddi, fel ddigwyddodd yn yr ail hanner y Sul diwethaf, gan fod yn barod i addasu'r chwarae fel y bo'r modd.

Hwyrach bod gwendidau yn parhau, ansicrwydd yngl欧n 芒鈥檙 blaenwyr os nad yw Bale yn holliach, ond mae鈥檙 gallu heddiw ganddynt i gyd chwarae, a chael y gorau allan o鈥檌 gilydd, beth bynnag fo鈥檙 sefyllfa fel y gwelwyd wrth addasu trefn a thacteg yn erbyn Gwlad Belg.

Ond gyda Chymru ar rediad o fod ond wedi colli unwaith yn eu naw gem ddiwethaf (gem gyfeillgar yn yr Iseldiroedd), tactegau cyfrwys y t卯m rheoli, chwaraewyr dawnus a threfn , disgyblaeth ac ysbryd o gyd chwarae, a chyd weithio ar gyfer ei gilydd, does dim amheuaeth fod Cymru yn prysur osod eu stamp cystadleuol ar y byd rhyngwladol.

Toriad yn y cystadlu rhyngwladol i Gymru (a鈥檙 gwledydd eraill) hyd nes diwedd fis Mawrth gyda thaith i wynebu Israel.

Ond bydd rhaid bod llawer mor wyliadwrus yn y g锚m honno hefyd gan fod buddugoliaeth Israel dros Bosnia / Herzegovina nos Sul wedi sicrhau tair buddugoliaeth o鈥檙 bron iddynt yng nghystadleuaeth Ewro 2016, a鈥檜 gosod ar frig Gr诺p B.

Gorau chwarae, cyd chwarae !

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cymru yng Ngwlad Belg

Nesaf