Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Tachwedd 18, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.


Beti a'i Phobol - Bywyd yn Awstralia

bywyd - life
gweddol fach - fairly small
pwysau - pressure
rhyddid - freedom
eisoes - already
yn gynhesach - warmer
deugain gradd - forty degrees
traddodiadol - traditional
fedra i ddim dychmygu - I can't imagine
morgrug - ants

...Beti George yn sgwrsio efo Eurwen Taylor sydd yn dod o Griccieth yn wreiddiol ond sy'n byw yn Awstralia ers tri deg saith o flynyddoedd. Cwestiwn Beti i Eurwen oedd pam bod byw yn Awstralia yn well na byw yng Nghymru. Wrth ateb, mae Eurwen yn disgrifio sut mae hi'n treulio dydd Nadolig yn Awstralia. Gwrandewch ar hwn a phenderfynwch be fasai orau gennych chi - Dolig Awstralia ta Dolig Cymru?

Post Cyntaf - Ail-gylchu

ail-gylchu - recycling
ysbwriel cyffredin - general rubbish
casglu - collecting
amrywiaeth - variety
gwastraff gardd - garden refuse
dosbarthu - to distribute
llygaid barcud - a keen eye
cipolwg - a glance
cosb - penalty
cadw golwg ar - keeping an eye on

Wel, be dach chi'n feddwl? Cinio Dolig yn eich gwisg nofio, ta swatio o flaen y t芒n yng Nghymru fach? Eurwen Taylor yn fan'na yn swnio'n reit hapus yn mwynhau tywydd poeth dros Wyl y Nadolig. Rhai o'r bobl brysura dros yr Wyl ydy'r rheini sy'n casglu'r biniau ail-gylchu a'r sbwriel cyffredin hefyd wrth gwrs. Dydd Iau mi gafodd Ben Price sgwrs ar ran Post Cyntaf efo Martin Huws o Gyngor Sir Ddinbych am arferion ailgylchu pobol yr ardal...

Rhaglen Dylan Jones - Tai Kwan Do ac Eisteddfodau

pencampwriaeth Prydeinig - British Championship
medal aur - Gold medal
ymladd - fighting
yn beryg(lus) - dangerous
ymarfer - training
mynd amdani - going for it
cystadlaethau - competitons
unawd - solo
cael llwyfan - through to the main stage
adrodd - reciting

...a Ben Price oedd yn fan'na yn sgwrsio efo Martin Huws am ailgylchu. Sgwrs wahanol iawn gafodd Dylan Jones ddydd llun efo Gwenan Hopkins o Gaerdydd. Yn ystod y tri munud nesa yma dach chi'n mynd i glywed Dylan a Gwenan yn s么n am ddau beth fasech chi byth yn eu cysylltu efo'i gilydd - Tai Kwan Do a chanu mewn Eisteddfodau. Dyma nhw yn esbonio'r cysylltiad...

Dod At Ein Coed - Mynwent naturiol Boduan

Mynwent Tragwyddol Boduan - Boduan Eternal Sanctuary
claddu - to bury
dail - leaves
mab newydd anedig - newlyborn son
rhywsut neu'i gilydd - somehow or other
tawel a heddychlon - quiet and peaceful
profiad rhyfeddol - an amazing experience
yma ac acw - here and there
creu - to create
arferol - usual

Tybed ai Gwenan ydy'r Pencampwr Prydeinig Tai Kwan Do cyntaf i gystadlu ar ganu ac adrodd yn yr Eisteddfod? Siwr o fod ynde? Eitem tra wahanol i orffen y podlediad hwn. Ar y rhaglen DOD AT EIN COED ddydd Sul mi aeth LLion Willliams draw i Fynwent Tragwyddol Boduan efo Llinos Haf Huws. Mae'r fynwent hon yn lle arbennig iawn. Coedwig sydd yno lle mae pobl ac anifeiliad yn medru cael eu claddu mewn safle cwbl naturiol. Mae babi bach Llinos wedi ei gladdu yn y fynwent ac mi ofynnodd Llion iddi pam dewis y lle yma i gladdu ei mab?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gem Gwlad Belg v Cymru

Nesaf

Trydydd Rownd Cwpan Cymru