Main content

Arian i goffrau Y Bala

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn ystod cystadlaethau rowndiau terfynol Ewro 2016, fe newidiodd y Bala ei henw (yn answyddogol) ar arwyddion y dref i Bale - fel cefnogaeth i Gymru allan yn Ffrainc.

Fodd bynnag, ychydig fyddai rhywun wedi meddwl y byddai’r Bala, erbyn heddiw, wedi elwa o  ymdrechion timau pêl droed a fu’n cystadlu am le yn yr Ewros.

Daeth yr elw annisgwyl fel cyfraniad ariannol gan UEFA un sgil cynhwysiant eu  hamddiffynwr David Artell yn nhîm cenedlaethol Gibraltar yn y gemau rhagbrofol.

Gan iddo chware mewn pum gem, mae’r Bala wedi derbyn bron £18,000 o elw a wnaeth UEFA allan o’r Ewro 2016.

Ymunodd Artell, sydd erbyn hyn yn rheolwr ar glwb Crewe Alexandra, â’r Bala ym mis Gorffennaf 2014, gan chware 39 o gemau i dîm Maes Tegid.

Arian annisgwyl efallai, ond i glwb yn uwch gynghrair Cymru, mae’n gyfle arall i wella adnoddau  a gwella’r tîm.

Juventus o’r Eidal gafodd y mwyaf o arian o’r drefn yma, sef bron i dair miliwn o bynnau.

Dim ond dau glwb arall yng Nghymru sydd wedi derbyn arian yn sgil  Ewro 2016, sef Caerdydd, £337,662 ac Abertawe ychydig dros filiwn.

Felly, y Bala yn cadw cwmni da ar lwyfan Ewrop !

Tybed os yw hyn am agor y drws i chwilio am chwaraewyr fel Artell sydd yn chwarae i wledydd bychain, ac yn sgil hyn yn gallu dod ac incwm ychwanegol ac annisgwyl i'w clybiau!

Rhywbeth i'w ystyried!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i ddysgwyr Ionawr 21ain-28ain

Nesaf

Geirfa Pigion i ddysgwyr 30 - 5ed o Chwefror 2017