Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 4ydd o Ragfyr 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Shelley a Rhydian - The Joy Formidable

uchafbwyntiau - highlights
Yr Wyddgrug - Mold
ar draws y byd - around the world
yn bennaf - primarily
wedi rhyddhau caneuon - have released songs
yn ogystal - also
hyd yn hyn - up to now
crynhoi - to summarise
ffodus - lucky
yn wynebau pobl - in people's faces

Cafodd Shelley a Rhydian sgwrs gyda Rhydian Dafydd o'r band The Joy Formidable. Daw'r band yn wreiddiol o ardal Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint ond maen nhw wedi perfformio ar draws y byd gyda ambell i artist enwog iawn fel cawn ni glywed yn y clip. Yn Saesneg maen nhw'n canu'n bennaf ond maen nhw wedi rhyddhau caneuon yn Gymraeg yn ogystal. Beth tybed yw uchafbwyntiau'r band hyd yn hyn?

Beti a'i Phobol - Ann Evans

o hyd - in length
yn arw iawn - very rough
y llanw - the tide
llif - flow
paratoi - to prepare
adeiladu'n ara' bach - to build slowly
dros y Bannau - over the Beacons
coedwigoedd pîn - pine forests
croesffordd - crossroads
sut yn y byd? - how on earth?

Rhydian Dafydd oedd hwnna o'r band Joy Formidable yn sôn am uchafbwyntiau'r band gyda Rhydian a Shelley. Mae Ann Evans wedi bod o gwmpas y byd hefyd, nid i berfformio gyda band roc ond i redeg marathonau ultra. Mae Ann dros chwedeg oed ond mae hi'n cymryd rhan mewn rasys sydd yn gannoedd o gilometrau o hyd, mewn llefydd fel yr Amazon. Dyma hi'n dweud ychydig o'i hanes wrth Beti George.

Sioe Frecwast Dan - Cwestiwn diog

anhygoel - incredible
wastad - always
diog - lazy
arloesol - innovative
heolydd troellog - winding roads
lan a lawr - up and down
rasfoi - boy racer
o fewn cyffiniau - within the confines

Hanes anhygoel Ann Evams sy'n rhedeg marathonau ultra oedd hwnna ar Beti a'i Phobol. Mae Daniol Glyn wastad yn gofyn cwestiwn diog i'w westai.Tro'r comedïwr Aled Richards oedd hi'r wythnos diwetha a'r cwstiwn iddo fe oedd 'beth yw dy hoff gêr wrth yrry car?' Dyma ei ateb.

Bore Cothi - Gruffydd Wyn

gyda llaw - by the way
ymuno â - to join with
graddio - to graduate
Coleg y Drindod, Caerfyrddin - Trinity College Carmarthen
parch - respect
tôn - tone

Daniel Glyn ac Aled Richards ar Radio Cymru 2 yn sôn am pa mor bwysig ydy cael car i fod yn gomedïwr llwyddiannus. Dw i'n siwr bod cael un neu dau o jôcs da yn help hefyd! Buodd Gruffudd Wyn, seren Britain's Got Talent y llynedd (gafodd y 'golden buzzer' gan Amanda Holden gyda llaw) yn siarad gyda Shan Cothi fore Mercher. Mae Gruffudd yn dod o Amlwch ar Ynys Môn ac mae e newydd orffen taith efo'r dawnswyr Diversity. Dyma fe'n son am sut dechreuodd e ganu.


Rhaglen Aled Hughes - The Crown

chwilio - to look for
yn hytrach na - rather than
gwell perthynas - a better relationship
arwyddo'r cytundeb - signing the contract
fy nghefndir i - my background
agwedd - stance
cynhyrchwyr cyfres - the seires producers
tywysog - prince
pennod - episode
lleisio - to voice

Un arall sydd wedi gwenud enw i'w hun drwy ganu ydy Mirain Haf. Mae hi hefyd yn actores broffesiynol ac yn byw yn Llundain ar hyn o bryd. Pan nad ydy hi'n canu neu'n actio mae hi'n gweithio yng Nghanolfan Cymry Llundain a phan roedd hi'n gweithio yn y swyddfa yn y Ganolfan un dydd derbyniodd hi alwad ffôn awreinodd at waith ddiddorol iawn. Dyma hi'n esbonio wrth Aled Hughes...


Rhaglen Trystan - Erin Richards

cyfarwyddo - to direct
amser bant - time off
saethu - to shoot
mynd ati - to go about it
unig - lonely
hunan-ddisgyblaeth - self-discipline
cymeriadau - characters
yn gyflawn - entirely
yn gyfangwbl - completely

Tasai Mirain wedi cael galwad ffôn o Los Angeles gan un o gyfarwyddywr y gyfres 'Gotham' basai wedi medru sgwrsio yn Gymraeg efo hi. Mae Erin Richards sy'n dod o Benarth yn wreiddiol wedi actio a chyfarwyddo'r gyfres deledu Fox ' Gotham'. Dechreuodd hi ei gyrfa ar S4C yn cyflwyno'r rhaglen i blant 'Mosgito' gyda Trystan Ellis-Morris dyma hi ar raglen radio Trystan yn dweud beth mae hi'n wneud y dyddiau hyn.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Hal Robson, Hal Robson-Kanu

Nesaf

Everton yn ffarwelio 芒 Marco Silva