Main content

Hal Robson, Hal Robson-Kanu

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ar ôl cyfnod o ansicrwydd yn dilyn llwyddiant yr Ewros yn 2016, mae’n ymddangos y daw haul dros fryn unwaith eto.
Wel, nid haul hwyrach ond Hal!
Ia, mae arwr yr awr yn erbyn Gwlad Belg, Hal Robson-Kanu wedi cyhoeddi ei fod a'i fryd ar ddychwelyd yn ôl i'r maes rhyngwladol, a chynnig ei wasanaeth I Gymru unwaith eto.
Chware teg iddo - mae wedi llwyddo i sgorio pum gwaith i'w glwb West Bromwich Albion (yn y Bencampwriaeth) mewn saith gem yn ddiweddar, ac nid yn unig yn sgorio, ond yn arwain y blaenwyr drwy ddal y bel i fyny iddynt a dod a'i gyd chwaraewyr i mewn i'r gêm yn ymosodol.
Ffantastig ydi disgrifiad ei gyd chwaraewr, Charlie Austin o berfformiadau’r Cymro, gyda gwefan West Bromwich yn rhoi llawer o’r clod i’r rheolwr, Slaven Bilic, am ail-ddyfeisio cyfraniad Robson-Kanu i'r tîm, ar ôl iddo, yn ei eiriau ei hun, ‘fethu a llawn werthfawrogi ei allu’, yn ôl erthygl yn rhaglen West Brom yn erbyn Shefield Wednesday, y Sadwrn diwethaf, a rhoi ail fywyd iddo wrth ei ddefnyddio mewn ffordd llawer mwy effeithiol nac a wnaethpwyd gan ei ragflaenwyr.
Mae ystadegau Robson -Kanu , fel ag a welwyd wrth gael ei enwi fel seren y gêm yn erbyn Shefiled Wednesday, yn dangos ei fod ar ben ei gem, a daeth ei bumed gol ganol wythnos wrth i West Brom guro Bristol City o bedwar gôl i un.
Ond, ydio’n dal i fod yn ddigon da i Gymru? A beth sy ganddo i gynnig o ystyried fod Kieffer Moore yn gwneud joban go lew o arwain llinell flaen yn barod?
Problem ddelfrydol i Ryan Giggs?
Ar yr un llaw, mae Moore yn bolyn lein o flaenwr sy’n creu hafoc yn y cwrt cosbi wrth chwalu pawb o’r ffordd, a chan amlaf, yn ennill y peli uchel a chreu cyfleoedd i’w gyd chwaraewyr, fel y gwelwyd yn erbyn Hwngari.
Ar y llaw arall, mae gallu Robson-Kanu i ddal y bel i fyny, gan dod a'i gyd chwaraewyr, sy'n ymuno o ganol y cae yn gyflym, yn creu problemau llawer mwy effeithiol, ond nid yn angenrheidiol drwy ddefnydd parhaus o beli uchel. Yna, mae’r gallu i sgorio hefyd yn tynnu sylw - ar hyn o bryd o leiaf.
Felly, be i’w wneud? Cael y ddau flaenwr yma yn y garfan a gosod un ar y fainc, ac os nad aiff pethau o’n plaid, gwybod y gallwn newid ein dull o chwarae , a bwydo'r arweinydd newydd mewn dull gwahanol, gan roi problem wahanol i'r gwrthwynebwyr ei ystyried?
Mae’n werth ystyried y sefyllfa, ac yn werth cadw llygaid ar ddatblygiad Robson-Kanu dros weddill y tymor
Yn y cyfamser:- ‘Hal Robson; Hal Robson-Kanu’ neu ‘Na-na;na-na-na; na, Kieffer Keiffer Moore, Kieffer Moore, Kieffer Kieffer Moore!’ ?
Amser a ddengys.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad Dysgu Cymraeg - 26ain o Dachwedd 2019

Nesaf