Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Rhagfyr 16, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bore Cothi - Drama'r Geni

drama'r Geni - nativity play
cynhyrchu - producing
wrth y llyw - at the helm
llety - inn
mynwent - cemetary
bugeiliaid - shepheards
cyfrinach - secret
delwedd - image
dychymyg - imagine
datgelu - to reveal

...stori Nadoligaidd iawn - hanes Drama'r Geni fydd yn cael ei chynnal yn Llanddarog Sir Gaerfyrddin eleni. Be sy mor arbennig am hynny d'wedwch? Mae na ddrama'r Geni i'w gweld mewn sawl pentre ac mewn nifer fawr o ysgolion ar hyd a lled Cymru. Ond bydd rhywbeth anghyffredin iawn yn digwydd yn Llanddarog fel y clywodd Shan Cothi wrth sgwrsio efo Vilna Thomas sy鈥檔 cynhyrchu'r ddrama...

Y Silff Lyfrau - Rhys Meirion

hunangofiant - autobiography
rhaid cyfaddef - I must admit
hyfforddiant - training
cantores - singer (female)
galar - grief
direidi - mischievousness
awdur o argyhoeddiad - an author of conviction
anghysondeb - inconsistencies
ieithydd - linguist
arddull - style

Gobeithio gawn ni wybod rhywbryd be digwyddodd efo'r angel ynde? Mae'n swnio'n gyffrous iawn. Mi fydd yn werth gwrando ar Bore Cothi drwy'r wythnos nesa rhag ofn i ni gael yr ateb. Os dach chi'n dal i chwilio am anrhegion Nadolig, basai hunangofiant Rhys Meirion yn siwr o blesio rhywun! Mae o'n llawn hanesion am Rhys wrth gwrs ond mae yna lawer iawn o hiwmor yno hefyd. Mae Nia Roberts a鈥檌 gwesteion ar Y Silff Lyfrau ddydd Mercher diwetha, Lowri Cooke, Catrin Beard a Trystan Lewis, wedi darllen y llyfr a dyma nhw'n rhoi eu barn arno fo... ...

Cofio - Pantomeim

cyfarwyddo - to direct
cyfraniad - contribution
bwlch - a gap
tylwythen - fairy
gwrach - witch
yn drychiolaeth - ghostly
gorlawn - overfull
dewin - wizard
egwyl - interval
heneiddio - to age

Wel mi fydd y llyfr yna'n mynd lawr ar fy rhestr i i Santa dw i'n siwr. A gan bod y Dolig yn dod yn nes mae hi'n dymor y Pantomeim yntydy? Reit, pwy dd'wedodd 'o na dydy hi ddim?'!! Mae'n debyg y bydd yna banto Cymraeg yn dod i'ch ardal chi yn yr wythnosau nesa- cerwch i'w weld os gewch chi gyfle. Ar Cofio ddydd Mercher buodd John Hardy a Dyfan Roberts yn sgwrsio am y pantomeim cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg, Mawredd Mawr, yn 么l yn Mil Naw Saith Un.

Galwad Cynnar - Newid hinsawdd

newid hinsawdd - climate change
sail - foundation
y cynhesa - the warmest
cynnydd cyson - consistent change
cyfartaledd tymheredd - average temperature
effaith aruthrol - a tremendous effect
ansefydlogrwydd - instability
eithafol - extreme
yn ddiweddar - recently
dadmar - to thaw

John Hardy a Dyfan Roberts yn fan'na yn cofio am y pantomeim Cymraeg cynta, a hefyd wrth gwrs am y gystadleuaeth harddwch - Miss Asbri! Tybed ydy Sion Corn yn poeni am newid hinsawdd gan ei fod yng nghanol yr eira a'r rhew yn y gogledd pell? Wel, nid trafferthion yr hen Santa buodd Gerallt Pennant a Twm Eleias yn eu trafod ar Galwad Cynnar ddydd Sadwrn ond yn hytrach mi glywon ni'r ddau yn trafod effeithiau newid hinsawdd ar y blaned gyfan. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cystadleuaeth Stori Nadolig Fer Geth a Ger

Nesaf

Ar Y Marc: Gemau Dros y Nadolig