Main content

Ar Y Marc: Gemau Dros y Nadolig

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae yna ryw awyrgylch unigryw i gemau p锚l droed dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn newydd.

Yn draddodiadol, dyma adeg y gemau darbi, ac fel un a gafodd ei fagu yn nyddiau'r hen Gynghrair Gogledd Cymru, gemau rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog oedd fy neiet i o b锚l droed ar ddydd Sant Steffan.

Roedd y gemau yma, fel gemau proffesiynol, yn cael eu chwarae yn wreiddiol ar ddydd y Nadolig, ac yna'r g锚m ddilynol ar Ddydd 糯yl Sant Steffan.

Daethpwyd a'r gemau Nadolig i ben ar ddechrau'r chwedegau pan benderfynodd undebau llafur fod rhaid i yrwyr bysus, fel pawb arall, gael g诺yl oddi wrth eu gwaith, a symudwyd gemau 'Dolig i Ddydd Calan.

Yn aml iawn, cyn y g锚m fawr ar ddydd Sant Steffan, roedd gemau yn y cynghreiriau is, a rheini hefyd yn gemau darbi gan ddechrau yn hwyr yn y bore er mwyn inni gyd fynd i weld y g锚m fawr!

Felly oedd hi imi ar fore oer a rhewllyd, mewn gem yng nghynghrair Dyffryn Conwy, wrth chwarae yn y g么l i Flaenau Ffestiniog Colts, draw yn Nolwyddelan , pan aeth popeth o'i le.

Dathlu'r Nadolig a gormod o bwdin a gafodd y bai, wrth i bopeth a oedd yn symud cael ei gicio, a minnau fel golwr yn cael fy hyrddio i ganol tomen o faw gwartheg yng ngheg y g么l fwy nac unwaith.

Ond , yn dilyn un drosedd yn ormodol, fe gafodd y dyfarnwr ddigon ac fe agorwyd llifddorau uffern wrth iddo fo, ag unrhyw un o鈥檌 berthnasau, gael eu cyfarch gan doreth ddi-stop o regi a dymuniadau tramgwyddus gwrth Nadoligaidd iawn!

Digon oedd digon, a phenderfynwyd anfon un o fy nghyd chwaraewyr oddi ar y cae am dwb cynnar o dd诺r oer yn y cwt newid.

Ond, gwrthod yn bendant a wnaeth fy nghyfaill, am nad oedd y Nadolig yn amser priodol, yn sgil dymuniadau gorau i ddynion ewyllys da, i anfon yr un chwaraewr oddi ar y cae, am beth bynnag rheswm! ( 鈥淗ey ref don鈥檛 you know it鈥檚 Christmas oedd y geiriau鈥 - ymysg toreth o regfeydd aml ieithyddol!! ! Ac ie, dwi鈥檔 dal i鈥檞 clywed nhw rhyw hanner can mlynedd yn ddiweddarach!!!)

Ond i鈥檙 cwt newid digysur a fo!

Ond nid dyna ddiwedd y stori.

Rhyw wythnos yn ddiweddarach, daeth llythyr i鈥檙 clwb, gan Gymdeithas Bel droed Arfordir Gogledd Cymru, yn cynnwys adroddiad y dyfarnwr o鈥檙 digwyddiadau yn Nolwyddelan ac yn rhoi'r rhesymau am anfon chwaraewr o鈥檙 cae, a pham y cymerwyd enw bron pawb arall a oedd ar y cae!

Ar ben yr amlen, oedd rhybudd clir - 鈥楴ot to opened by a female!鈥

Wn i ddim beth oedd agwedd pobol tuag at gydraddoldeb rhyw yn y chwedegau, ond tybed a fyddai Manchester United neu Chelsea yn derbyn rhybudd ar ben eu llythyrau yn yr oes ohoni os digwydd i Wayne Rooney neu Jose Mourinho golli eu limpyn?

Ond yn 么l at gemau lleol yn y chwedegau ac adnoddau newid t卯m y Colts, yng Nghae Clyd ym Manod, gerllaw Blaenau Ffestiniog.

Allai eich sicrhau nad oedd yna ddim byd yn glyd iawn am y lle yng nghanol y gaeaf.

Beudy yng ngardd gefn un o鈥檙 tai gerllaw oedd y cwt newid, ac anferth o fath sinc metal ar y llawr i drochi ynddo ar 么l y g锚m, heb fawr ynddo i gynhesu bodiau traed heb son am weddill y corff.

Ond dyna ni, dynion oedd dynion yr adeg hynny, medda 'nhw, ond os cawsoch eich taro mewn lle tyner gan b锚l ledr gwlyb a oedd yn pwyso tunnell, byddech yn lwcus iawn o gyrraedd y cwt newid yn dal i gredu mai dyn oeddech chi!

A doedd cael damwain felly, rhyw awr neu ddwy cyn mynd i ddenu genethod ar nos Sadwrn ddim yn j么c, yn enwedig os oedd pob Tom, Dic a Harri ar y pwyllgor wedi bod wrthi'n bodio'ch corff i edrych be oedd yn bod arnoch, a chithau bron a llewygu, na chwaith mewn unrhyw sefyllfa i'w rhwystro!

Tydi peldroedwyr heddiw ddim yn gwybod eu bod wedi cael ei geni, ac os ydynt yn meddwl mai deifio o gwmpas y lle a syrthio i鈥檙 llawr cynted ag y mae rhywun yn eu taro ydi bod yn ddyn, yna meddyliwch mewn difrif be鈥 fasa鈥檔 digwydd petaent yn chwarae ar Gae Clyd ac yn cael yr hen b锚l ledr yna yn eu taro rhwng eu coesau!

Mwynhewch yr 诺yl, a gwyliwch yr iaith!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Radio Cymru Yn Cyhoeddi Golygyddion Gwadd