Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 1af o Fawrth 2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bore Cothi - Anti Marian Pobol y Cwm

trafili - teithio
cwympo - to fall
dihuno - deffro
canolbwyntio - to concentrate
yr holl gyfnod - the whole period
menyw - merch
pwy noswaith - the other night
golygfeydd - scenes
yn yr unfan - in the same place
llinell - line

"...mae Anti Marian wedi marw. Dw i ddim yn sôn am neb yn fy nheulu cofiwch, ond yn hytrach am Anti Marian Pobol Y Cwm, yr ‘anti’ fwyaf enwog yng Nghymru mae'n debyg. Mae Buddug Williams wedi bod yn chwarae’r rhan ers pedwardeg un o flynyddoedd, ond ar Pobol y Cwm yr wythnos diwetha buodd Anti Marian farw. Aeth Shan Cothi draw i gartref Buddug Williams yng Nghefn Eithin, ger Llanelli i gael dipyn o’i hanes gan ddechrau gyda’i dyddiau cyntaf ar y set ..."

Straeon Bob Lliw - Pwy Sy'n Gwisgo'r Trowsus?

poblogaidd - popular
difaru - to regret
yn dueddol o - tend to
coedwig - wood (forest)
callach - wiser
cyffro mawr - huge excitment

"Dw i'n siwr byddan ni gyd yn colli gweld yr hen Anti Marian druan ar y sgrîn yn byddan? Dw i ddim yn meddwl i mi weld Anti Marian yn gwisgo trowsus o gwbl. Ers stalwm wrth gwrs doeddech chi ddim yn arfer gweld merched yn gwisgo trowsusau. Pryd dechreuodd merched wisgo trowsus tybed? Dyna’r cwestiwn diddorol ofynwyd mewn pennod o Straeon Bob Lliw ddydd Llun. Roedd y rhaglen yn edrych ar hanes y trowsus mewn byd ffasiwn ar hyd y blynyddoedd. Dyma ddwy fenyw yn dweud eu hanes, un yn cofio gwisgo trowsus am y tro cyntaf pan oedd hi yn ei harddegau, a’r llall erioed wedi gwisgo trowsus..."

Rhaglen Dylan Jones - Dr Gethin Mathews

Rhyfel Byd Cyntaf - First World War
ystydegau - statistics
cefnogaeth - support
ymgyrch y cynrheiriad - The Allies' campaign
brwydrau - battles
diwylliant - culture
creithiau - scars
coffáu - to commemorate
y gweddill - the rest
urddasol - dignified

"Pwy sy'n gwisgo'r trowsus yn eich ty chi dwedwch? Mwy o hanesion difyr o'r gorffennol rwan. Cafodd Dylan Jones sgwrs ddiddorol iawn ddydd Mercher efo Dr Gethin Mathews, sydd yn dysgu yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Sôn oedd o am rai o'r enwau diddorol cafodd eu rhoi ar blant yng Nghymru adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

 

Rhaglen Dylan Jones - Lloyd Antrobus

cefnfor - ocean
cadwraeth - conservation
mwyngloddio - mining
traddodiadol - traditional
wedi gwirioni - infatuated
seithfed nef - seventh heaven
mewn caethiwed - in captivity
cipolwg - a glimpse
braint - privilege
agweddau - aspects

"Loos, Somme a Verdun rhai o enwau plant gafodd eu geni yng nghymoedd y de rhwng 1914 a 1918 ac rwan dan ni'n gwybod pam gaethon nhw'r enwau rheini. Diddorol ynde? Ddydd Iau cafodd Dylan Jones sgwrs efo rhywun oedd ar long ar gefnfor India. Roedd Lloyd Antrobus o Fwcle wedi dechrau ei daith yn Mecsico ac wedi mynd draw i'r dwyrain erbyn i Dylan Jones gael sgwrs efo fo. Mae'r daith yn rhan o gynllun ‘Semester at Sea’ ac mae Lloyd yn astudio cadwraeth a bywyd gwyllt. Beth oedd wedi sefyll allan am y daith hyd yn hyn i Lloyd? Dyma fo'n dweud wrth Dylan Jones..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Llwyddiant diweddar Wrecsam

Nesaf

Sut ewch chi Ffrainc yr haf yma?