Main content

Sut ewch chi Ffrainc yr haf yma?

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Roedd ‘na ffilm rhai blynyddoedd yn ôl yn dweud hanes gwr a oedd yn ceisio dychwelyd adref at ei deulu ar gyfer dathlu’r diolchgarwch, yn yr Unol Dalaethau. Ffilm gomedi oedd hwn, yn olrheinio taith helbulus, drwy ddefnyddio awyren, trên a char.

Fe ddois i gofio am y ffilm yr wythnos yma wrth wrando ar storiâu am gynlluniau pobol sydd am deithio draw i Bordeaux i gefnogi Cymru yn ffeinals yr Euro 2016 yr haf yma.

Ymddengys fod yna doreth o gynlluniau teithio ar y gweill. Digon yn wir i greu ffilm gomedi arall .
Mae son am rai sydd am deithio draw i Gaergybi cyn hwylio i Ddulyn , yna dal awyren i Sbaen ac yna dal y tren i Fordeaux.

Yna, mae eraill am deithio i’r Almaen ble fydd bws mini neu camper van yn eu haros, cyn ei yrru dros y ffin i Ffrainc, aros ym Mordeaux, dreifio i'r ail gêm yn y gogledd yn Lens, yna taith hir yn ôl i Toulouse yn y de, cyn dychwelyd y camper van i'r Almaen, ac yna hedfan yn ôl i Gymru.

Yna, os bydd Cymru yn llwyddo i gyrraedd ar ail rownd, mae'n debyg y bydd rhaid ail drefnu cynlluniau'n gyfan gwbl.

Tybed a oes gennych chi storiâu neu gynlluniau tebyg ar gyfer dilyn Cymru eleni,
Diddorol fyddai rhannu eich cynlluniau a braf fyddai clywed gennych os oes gennych chi drefniadau unigryw gwerth eu rhannu gyda gwrandawyr Ar y Marc.

Cysylltwch â ni drwy’r Blog a gadwech inni wybod.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Timau Rownd Cyn-derfynol Cwpan Cymru