Main content

3edd Rownd Cwpan FA Lloegr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Does dim byd fel gemau cwpan i ddangos gwendidau'r byd p锚l droed. Na, dydw鈥檌 ddim am sarhau campau'r timau hynny a llwyddodd i greu syndod y penwythnos diwethaf.

Ges i ddim syndod ar Barc Goodison y Sadwrn diwethaf wrth weld Everton yn camu mlaen yn gyfforddus a chwalu Queen鈥檚 Park Rangers o bedair g么l i ddim. Ond pob clod a mwy i Sheffield United am ennill oddi cartref yn Aston Villa, a hefyd i Nottingham Forest a wnaeth i West Ham edrych yn fwy tebyg i d卯m dychmygol o raglen Eastenders, nac i d卯m proffesiynol yn yr Uwch Gynghrair. Clod hefyd i Rochdale a drechodd Leeds United.

Chwalwyd West Ham gan glwb sydd 芒 Chymro yn rhan o鈥檜 t卯m hyfforddi. Hyfforddwr y golwyr yn Nottingham Forest ydi Peter Williams, gwr sy鈥檔 enedigol o Lanelwy a chyn olwr i mi yn fy nghyfnod fel rheolwr ar Borthmadog beth amser yn 么l. Ail ymunodd Peter a Forest ym mis Chwefror y llynedd yng nghwmni ei gyfaill Billy Davies, a ddychwelodd yno fel rheolwr. Cafodd Peter brofiad rhan amser fel hyfforddwr gyda thimoedd Yr Amwythig, Wolverhampton Wanderers a Northampton. Gosododd safon a dynnodd sylw gan glybiau eraill, ac fe arweiniodd hynny iddo gael swydd llawn amser fel hyfforddwr i Bradford City o dan reolaeth Chris Kamara, cyn symud i Swindon. Yna daeth yn rhan o d卯m hyfforddi Peter Reid yn Sunderland yn yr Uwch Gynghrair, cyn ymuno a Billy Davies yn Preston North End. Aeth y ddau ymlaen i Derby County gan eu harwain i'r Uwch Gynghrair, yna ymlaen i Nottingham Forest yn 2009 am ddwy flynedd cyn cael eu galw yn 么l ar 么l i'r clwb y llynedd. Gwobr i Forest ar eu buddugoliaeth swmpus ydi gem adref yn erbyn una鈥檌 Ipswich neu cyn clwb Peter, sef Preston.

Ond nid yr hyfforddwr o Lanelwy oedd yr unig Gymro i brofi llwyddiant a rhamant y gwpan y penwythnos diwethaf. Draw ar Barc Villa, gwelodd cyn ffisiotherapydd Wrecsam, Ritson Lloyd, ei dim newydd, Sheffield United yn taro Aston Villa allan o'r gwpan ac yn derbyn gem gartref yn y bedwaredd rownd, yn erbyn una鈥檌 Norwich neu Fulham. Cyfle arall am sioc efallai?

Trueni fodd bynnag ydi nodi agwedd nifer o reolwyr yn enwedig y rheini sydd yn gweithio yn yr Uwch Gynghrair at y gwpan. Wrth wrando arnynt yn hel esgusodion mai timau gwan neu di brofiad sydd ganddynt oherwydd anafiadau, gwaharddiadau ac unrhyw reswm arall, fe fyddai rhywun yn rhyw amau mai siarad am dimau lol o fewn cynghreiriau rhanbarthol mae'r rheolwyr yma.

Does gen i ddim cydymdeimlad at y rheini sydd yn talu cyflogau enfawr i'w chwaraewyr, ac yna yn ceisio ein darbwyllo mai t卯m gwan sydd ganddynt mewn gemau cwpan - tydi hyn ddim yn dal d诺r. Os na all clwb cefnog gynnal carfan gref a fyddai yn barod i gystadlu ymhob cystadleuaeth, yna rhaid gofyn cwestiynau am eu hagwedd, eu trefn a鈥檙 dull y maent yn gwario arian.

Yn y cyfamser, wedi I mi ddod i lawr oddi ar fy mocs sebon, siawns y bydd cefnogwyr Caerdydd yn ymfalch茂o yn eu buddugoliaeth yn Newcastle, ac yn edrych ymlaen am daith i Bolton yn y bedwaredd rownd. Cyfle felly i'r adar lliwgar ( beth bynnag fo'r lliw) gamu ymlaen eto.

Ond os mai鈥檙 dyma dro cyntaf ers dros hanner can mlynedd i Gaerdydd ennill yn Newcastle, fe aeth Abertawe un yn well wrth ennill am y tro cyntaf ar Old Trafford. Buddugoliaeth o ddwy gol i un yn erbyn Manchester United yn eu gweld yn chwarae oddi cartref yn erbyn Birmingham, Bristol Rovers neu Crawley yn y rownd nesaf.

Ie, dwedwch beth a fynnoch, esgusodion neu ddim, ond mae rhamant y gwpan yn parhau.

Tybed a fydd y ddau d卯m o Gymru yn wynebu ei gilydd yn Wembley fis Mai? Petai hyn yn digwydd, yna fe fydd y F.A. wrth eu boddau wrth weld eu pencadlys yn for o wyn, coch a glas! Annhebygol? Wel nid dyma fyddai'r tro cyntaf i ddau d卯m o Gymru gyfarfod yn Wembley. Cyfarfu Wrecsam a Chasnewydd yno'r llynedd yn ffeinal gemau ail gyfle i Adran Dau.

Ond yn y cyfamser mae rowndiau eraill i'w cynnal yng nghwpan Lloegr, a d鈥檕es dim byd cystal 芒 gweld t卯m o adran is yn rhoi cweir go iawn i d卯m sydd yn ystyried ei hun fel un o uchelwyr y byd p锚l droed.

Edrychwn ymlaen at fwy o sioc a syndod yn y rownd nesaf.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blwyddyn Newydd Dda !

Nesaf

Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 7fed o Ionawr 2014