Main content

Blwyddyn Newydd Dda !

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Blwyddyn newydd dda i chi gyd.

Wrth edrych yn 么l dros y flwyddyn ddiwethaf, daw llawer atgof i'r meddwl, a hynny am ddigwyddiadau a oedd i mi yn rhai eithaf unigryw a phersonol.

Tri thrip i Wembley o fewn rhyw fis neu fwy a, gan gynnwys gweld dau d卯m o Gymru yn brwydro am lwyddiant ar faes eglwys gadeiriol Lloegr! Roedd Abertawe eisoes wedi llwyddo yno yn y gwanwyn wrth gipio cwpan Capital One a dod yn gymwys i gynrychioli Lloegr yng Nghwpan Ewropa. Yn ddiddorol, llwyddodd t卯m o Loegr, sef y Seintiau Newydd, i gipio coron Uwch gynghrair Cymru, a dod i gynrychioli Cymru yng nghynghrair Ewrop, er mai t卯m wedi sefydlu yn Lloegr( Croesoswallt) ydynt.

Mae鈥檔 debyg i bron pawb a deithiodd i Wembley ar ddiwedd mis Mawrth i weld Wrecsam yn curo Grimsby yn ffeinal tlws y F.A. gofio'r achlysur. Roedd y frwydr wedi dechrau rhyw ddeuddydd ynghynt i鈥檙 cefnogwyr wrth iddynt dyllu eu hunain o ganol yr eira er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd y brif ffordd cyn meddwl am deithio yn ddidrafferth i gyrion Llundain. Yr ymweliad cyntaf i Wembley i rai, ac yn sicr yr oeraf ond llwyddodd Wrecsam i gynhesu'r galon wrth ennill mewn gem gyffrous.

Yna yn 么l i Wembley ar ddechrau Mai i weld y frwydr Gymreig - Casnewydd yn erbyn Wrecsam am ddyrchafiad i Adran Dau Gynghrair Lloegr. Does dim amheuaeth fod y t卯m o Went wedi elwa yn enfawr o'r fuddugoliaeth yma, gan eu bod erbyn hyn yn brwydro am ddyrchafiad i Adran Un, ac ymysg y ceffylau blaen. O ran Wrecsam, ymddengys fod y golled yn Wembley wedi bod yn rhyw faen tramgwydd. Gwelwyd chwaraewyr allweddol yn ymadael dros yr haf, yna anafiadau di-rif a nifer annerbyniol o waharddiadau yn amharu ar unrhyw lwyddiant a fyddai鈥檔 debygol yn y flwyddyn newydd. Er waethaf hyn, petai rhediad da a chysondeb y cael ei gynnal, heb anaf na gwaharddiad, hwyrach y daw haul ar fryn eto am gyrraedd safleoedd yr ail gyfle. Ond hwyrach mai ail adeiladu ydi'r neges sydd y tu 么l i'r tymor yma!

Os nad oedd dau drip i Wembley yn ddigon, roeddwn yn 么l yno o fewn wythnos i weld Wigan Athletic yn cipio Cwpan Lloegr mewn gem yn llawn syndod yn erbyn Manchester City. Braint oedd cael bod yn y Cup Final am y tro cyntaf ac roedd y cyffro ynghanol, cefnogwr Wigan yn rhywbeth bythgofiadwy.

Yn 么l i Gymru a gwelsom dimau o Uwch gynghrair Cymru yn llwyddo ac ymestyn safonau a delwedd y gynghrair ar y cyfandir. Llwyddiant i'r Bala a hefyd Prestatyn, ond yna syndod wrth weld na chafwyd parhau o'r safon yma yn yr Uwch gynghrair ganddynt dros yr hydref. Hwyrach fodd bynnag fod y drefn o rannu'r gynghrair i ddwy adran ganol tymor yn talu ar ei ganfed wrth ystyried ymdrechion y Bala a Phrestatyn. Yn ogystal, cafwyd ymdrechion teg hefyd gan Airbus a鈥檙 Seintiau yn erbyn timau profiadol o鈥檙 cyfandir.

Ond i mi fy uchafbwynt personol yn y flwyddyn oedd cael gwireddu breuddwyd gydol oes a chael mynd i weld Real Madrid yn chwarae ar y Bernabeu. Rwyf eisoes wedi adrodd am y profiad emosiynol yma, a bydd yr atgofion yn parhau bythoedd. Yn ogystal 芒 gweld y g锚m, roedd gweld y Cymro Gareth Bale yn sgorio ddwywaith a chreu dwy gol arall i Real yn ychwanegu at yr anghrediniaeth.

Pob lwc a dymuniadau gorau i chi gyd i'r flwyddyn newydd, a cofiwch ddilyn eich timau yn frwdfrydig, yn lleol a chenedlaethol.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad i ddysgwyr: Geirfa 24 Rhagfyr 2013

Nesaf

3edd Rownd Cwpan FA Lloegr