Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Rhys Mwyn - O'r Pedwar Gwynt
cyhoeddi - to publish
yn y bôn - essentially
llenyddiaeth - literature
materion cyfoes - current affairs
dyfnhau ein dealltwriaeth - deepen our understanding
arwyddocaol - significant
adlewyrchu - to reflect
swmpus a threiddgar - substantial and penetrating
cydio yn nychymyg - to catch the imagination
y Sefydliad Brydeinig - The British Establishment
...mae yna gylchrawn newydd ar werth ar hyn o bryd 'O'r Pedwar Gwynt'. Mae Angharad Penrhyn yn un o'r tîm sy'n golygu'r cylchgrawn a hi oedd gwestai Rhys Mwyn nos Lun. Beth yn union ydy pwrpas y cylchgrawn newydd? Dyma Angharad yn esbonio...
Bore Cothi - Canser y coluddyn
codi ymwybyddiaeth - raising awareness
Pennaeth - Head
canser y coluddyn - bowel cancer
yn syth bin - straight away
symudiadau - movements
rhywbeth o'i le - something wrong
anghenreidiol - necessarily
ddim yn fodlon - not satisfied
...wel, mae'r cylchgrawn newydd 'O'r Pedwar gwynt' yn swnio'n ddiddorol iawn yn tydy? Mae mis Ebrill yn fis codi ymwybyddiaeth canser y coluddyn, a bore Mawrth cafodd Shan sgwrs ar Bore Cothi efo Lowri Griffiths, Pennaeth Bowel Cancer UK yng Nghymru
Ysbrydoliaeth - Waliau cerrig
ysbrydoliaeth - inspiration
celfyddyd - art
cerrig - stones
hollol hurt - totally stupid
gwaed a chwys - blood and sweat
amaethu - farming
aredig - ploughing
dw i'n syrffedu ar - I've had enough of
sbio - edrych
cloddiau - walls
Cyngor da yn fan'na gan Lowri Griffiths ynglyn â sut i nabod symptomau canser y coluddyn. Ysbrydoliaeth ydy enw'r rhaglen ble mae Nic Parry yn holi pa ddarnau o gelfyddyd sydd wedi ysbrydoli ei westai. Y meddyg teulu Catrin Elis Williams, yr actores Eddie Ladd a'r ffermwr Gareth Wyn Jones oedd yn cadw cwmni iddo fo yr wythnos diwetha. Be oedd wedi ysbrydoli Gareth tybed?
Rhaglen Geraint Lloyd - Canser y gwaed
mwya cyffredin - most common
blinedig - tired
difrifol - serious
cael gwared ar - get rid of
rhoddwr - donor
ymgyrch - campaign
yn fwy clou - quicker
trideg y cant - 0.3
Gareth Jones oedd hwnna yn amlwg yn caru waliau cerrig Cymru. Nid canser y coluddyn oedd yr unig ganser lle roedd ymdrech i godi ymwybyddiaeth ohono yn cael ei wneud ar Radio Cymru yr wythnos diwetha. Mae Beatrice Edwards yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Birmingham ac mae hi'n ceisio codi ymwybyddiaeth o ganser y gwaed...
Rhaglen Aled Hughes - Sinemâu
yn ddiweddarach - more recently
twymgalon - warm hearted
dyledion - debts
hardd - beautiful
denu - to attract
cosi - to itch
cwt chwain - flea pit
pictiwrs - cinema
atynfa - attraction
Beatrice Edwards fuodd yn sôn am ganser y gwaed gyda Geraint Lloyd. Mae llawer o hen sinemâu wedi cau erbyn hyn, er bod diddordeb newydd mewn mynd i'r sinema i weld ffilmiau. Buodd Mici Plwm yn sôn am yr hen sinemâu ar raglen Aled Hughes fore Mercher ac yn esbonio pam bod cymaint ohonyn nhw wedi cau...