Main content

Taith Leeds Utd i Myanmar

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A beth ydi’ch barn chi am gyhoeddiad Leeds United eu bod am fynd ar daith a chwarae dwy gêm ym Myanmar ar ddiwedd y tymor?

Mae yna dipyn o st诺r wedi codi yngl欧n â’r ymweliad, o ystyried yr honiadau fod Myanmar ynghanol cyfnod  helbulus iawn yn hanes y wlad, gyda honiadau fod dros 7000,000 mil o’r Mwslemiaid Rohingya wedi ffoi o’u cartrefi, wrth ddianc dros y ffin i Fangladesh yn ystod yr wyth mis diwethaf,  a cheisio lloches rhag y trais yn nhalaith Rakhine.

Mae Andrea Radrizzani, perchennog Leeds United, wedi amddiffyn y daith gan honni y gallai hyn godi ymwybyddiaeth i'r anghyfiawnder sy'n digwydd ym Myanmar, a bod y ddwy gêm sydd wedi eu trefnu yn rhoi cyfle i helpu i ddatblygu’r gêm yn un o’r gwledydd sy’n datblygu gyflymaf yn ne orllewin Asia. Ychwanegodd hefyd y byddai’r clwb yn gallu cyfarfod cefnogwyr newydd a fydd yn gallu dilyn hynt a helynt y tîm ar eu taith yn ôl i Uwch gynghrair Lloegr.  Wel, mae hawl i bawb a'i farn! Taith o bosib. ond nid un heb ei helynt ble mae Leeds yn y cwestiwn !

Pam, Myanmar felly? Gwlad sy'n datblygu’n gynt nac unrhyw un arall? Efallai wir, ond wnaeth y perchennog ddim datgelu naddo, mai ganddo fo mae hawliau i becyn darlledu teledu yn yr ardal! Tybed a oes cynlluniau i gael sianel Leeds United TV ar y ym Myanmar? Amser a ddengys!

Yn aml iawn mae taith y wlad tramor yn rhyw fath o wobr am ymdrechion y tîm dros y tymor, a chyfle i ymlacio. Hwyrach, o ystyried helyntion  a pherfformiadau Leeds dros y tymor, eu bod yn cael eu haeddiant drwy ymweld â Myanmar! Pwy a 诺yr?!

Efallai hefyd y dylent arwyddo Rambo!

Na, nid Aaron Ramsey, ond Sylvester Stallone. Tipyn o olwr yn ôl y ffilm 'Escape To Victory’ ac os ydych wedi gweld Leeds yn chwarae'r tymor yma, fel y gwnes i, yna fe fyddwch yn ymwybodol fod angen golwr gwell!

Ac os am fynnu mynd ar daith i Fyanmar (neu Burma fel yr oedd yn cael ei hadnabod) yna allai nhw wneud dim gwell na mynd a Rambo gyda nhw,  o gofio anturiaethau’r cymeriad yma yn y ffilm o’r un enw, a gafodd ei ryddhau yn 2008 , wrth i Rambo achub gr诺p o genhadon Cristnogol a gafodd eu herwgipio gan lywodraeth filwrol Burma.

Gyda Leeds United ar ryw fath o bererindod yn yr un wlad, hwyrach bod lle i ofidio, yn enwedig o feddwl mai cyngor y Swyddfa Dramor i bob ymwelydd a Myanmar ydi bod terfysgaeth yn bosibl, osgoi tyrfaoedd, (a Leeds yn gobeithio tynnu miloedd i'w gweld yn chwarae!), ac na chaniateir i staff y Llysgenhadaeth Brydeinig deithio i rai rhannau o'r wlad heb ganiatâd y llywodraeth . Ac ar ben hyn i gyd, ceir rhybudd fod afiechyd sy’n codi o’r Firws Zika yn hawdd i'w ddal ar hyd a lled y wlad!

Ond os aiff pethau'n anodd,  byddai codi cymanfa o ‘We Are Leeds’ yn ddigon i ddychryn unrhyw un !

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Mecsico v Cymru