Main content

Geirfa Podlediad Ionawr 21-27ain 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr


Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bore Cothi - Coffi

Prydeinwyr - British (people)
ychwanegu - to add
arbenigo - to specialise
safon uchel - high standard
tarddiad sengl - single source
yn gyffredinol - generally
ymwybodol - aware
traean - a third
tywallt - to pour
mynach - a monk

"Gyda lle dach chi'n cysylltu coffi - Yr Eidal, Columbia, Brazil falle? Wel mae cwmni Poblado yn rhostio coffi ym mhentre Nantlle yng nghanol mynyddoedd Eryri. Dydd Llun diwetha buodd Steffan Hughes, sy'n gweithio i'r cwmni yn rhoi cyngor i Shan Cothi am y gwahanol fathau o goffis sydd ar gael y dyddiau yma... "

Labordy - Pont Menai

canllaw - railing
caets - cage
gorchwyl - task
rhyw gryniad - a vibration
cyrdeddu - to jerk
hel sgrap - collecting scrap
merlyn - pony
yn nes - yn agosach
un o'r tyrrau - one of the towers
diogel - safe

"Fydd capuccino byth yn blasu'r run fath rwan - pen mynach, ych a fi! Mae yna dipyn o sôn y dyddiau hyn am adeiladu pont newydd dros y Fenai. Mae gan Emlyn Pennant Tomos gysylltiad teuluol efo'r bont wreiddiol a buodd o'n dweud ambell i hanes am y bont wrth Deri Thomas a Bryn Tomos yn rhaglen dydd Llun diwetha o'r gyfres newydd Labordy. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng y Tomosiaid..."

Dan y Wyneb - Rheolwyr pêl-droed

rheolwr - manager
arwain - to lead
ar adegau - at times
creulon - cruel
cael gwarad ar - get rid of
siomedig - disappointed
arwyddo - to sign
yr Uwchgynghrair - The Premier League
fy mai i - my fault
pwysau ar fy ysgwyddau - weight on my shoulders

"Pwy fasai'n meddwl basai merlyn a chart yn achosi gymaint o broblemau ynde? Mae'r Cymro Mark Hughes newydd gael y sac fel rheolwr tim pêl-droed Stoke. Pam mai rheolwyr pêl-droed sy'n cael y sac ac nid y chwaraewyr? Dyna ofynnodd Dylan Iorwerth i Iwan Roberts, oedd yn arfer chwarae dros Gymru ac i fwy nag un o'r clybiau mawr, ar Dan y Wyneb nos Lun."

Bore Cothi - Teganau

poblogaidd - popular
oedolion - adults
dwywaith y plentyn - second chilhood
cyn gymaint - as much/so much
dylanwad - influence
adrodd yn ôl - report back
perchen - own
traddodiadol - traditional
lliwgar - colourful
cwyno - complaining

"Bydd sawl rheolwr arall wedi cael sac cyn diwedd y tymor pêl-droed siwr o fod. Oedd ganddoch chi hoff degan pan oeddech chi'n blentyn? Dach chi dal yn hoff o'r tegan hwnnw? Mae pedwardeg pedwar y cant o'r boblogaeth yn prynu teganau oherwydd eu bod nhw wedi mwynhau'r tegan arbennig yna pan oedden nhw'n blant. Un tegan sy'n dal yn boblogaidd iawn heddiw ydi Lego. Dyma i chi ran o sgwrs rhwng Shan Cothi a Paula Leslie sy'n rhedeg siop deganau ym Mhorthmadog."

Beti a'i Phobol - Duncan Brown

deuoliaeth - duality
gorchymyn - command
haeddu - to deserve
digywilydd - cheeky
ar gyfnodau fy mywyd - in periods of my life
yr unig elfen - the only element
dihyder - lacking confidence
yn orhyderus - overconfident
y tyndra - the tension
sylweddoli - to realise

"Paula Leslie oedd honna'n esbonio ar Bore Cothi pam bod Lego dal yn boblogaidd iawn. Mae llawer iawn o ddysgwyr Cymraeg yn dod o du allan i Gymru yn wreiddiol. Ond ydy'r rhai sydd yn dod yn rhugl yn meddwl am eu hunain fel Cymry? Gwestai Beti George yr wythnos yma oedd y naturiaethwr Duncan Brown. Cafodd Duncan ei eni yn swydd Derby ond mae'n byw yng Nghymru ers pan oedd yn flwydd oed, ond mae'n dal i alw ei hun yn Sais. "

Rhaglen Aled Hughes - Simon Chandler

chwarel - quarry
ysbrydoli - to inspire
naws - essence
cefais fy swyno - I was enchanted
trwy gyfrwng - through the medium
ergyd - a blow
brawddeg galonogol - a supportive sentence
atal rhag - to refrain from
difaru - regret
yn y cyfamser - in the meantime

"Stori am ddysgwr arall sydd yn y clip nesa. Mae Simon Chandler yn dod o Lundain yn wreiddiol ond yn byw ym Manceinion erbyn hyn ac mae o wedi dysgu Cymraeg yn arbennig o dda. Ond buodd bron iawn i Simon beidio â dysgu Cymraeg o gwbl, oherwydd rhywbeth gafodd ei ddweud wrtho undeg saith o flynyddoedd yn ôl. Dyma fo'n dweud yr hanes wrth Aled Hughes..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Pel-droed Merched Manceinion