Main content

Pel-droed Merched Manceinion

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra mae tîm Manchester City yn edrych i lawr ar bob tîm arall yn yr uwch gynghrair yn Lloegr, mae eu llwyddiant yn tueddu i guddio llwyddiant tîm y merched. Llwyddiant sy’n wir i ddweud, sydd yn well na’r hyn mae’r dynion wedi ei brofi hyd yn hyn.

Mae tîm y merched wedi ennill Cynghrair Super League y llynedd, yn ogystal â Chwpan Lloegr a Chwpan y Gynghrair , rhywbeth nad ydi’r dynion wedi ei gyflawni mewn un tymor hyd yn hyn!

Ond, tydi’r torfeydd ddim wedi ymateb yn eu miloedd i'r llwyddiant gyda thorfeydd , ar gyfartaledd o gwmpas 1,200 eleni yn Stadiwm Academi’r clwb (ar gampws Etihad, sydd wedi ei godi i ddal 7,000 o bobol.)

Gellir cymharu poblogrwydd y gêm ym Manceinion trwy gymharu ‘r dyrfa o 3,548 a drodd i fyny i'r gêm yn rownd yr wyth olaf yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop y llynedd yn erbyn Lyon, tra gwelwyd torf o 19,214 yn yr ail gymal yn Ffrainc.

Yn sgil hyn, mae’r clwb wedi dechrau ymgyrch - ‘Yr un gêm, yr un clwb, yr un #mancity’ o dan y pennawd ‘Yr un ddinas, yr un angerdd’, a mae’r clwb wedi cyfuno mynediad i wefannau cymdeithasol y clwb i'r un sianel, sef @mancity.

Y bwriad yma ydi sicrhau cydraddoldeb i'r ddau dîm ac yn y cyd-destun yma, mae’r dynion a'r merched yn rhannu'r un gefnogaeth feddygol, yr un adnoddau ar gyfer dadansoddi perfformiad, a chyfleusterau eraill ar y campws.

Hyd yn hyn, Manchester City ydi’r unig glwb i gyfuno mynediad i wefan gyhoeddus yn y modd yma, tra mae Chelsea, gwrthwynebwyr mwyaf y clwb ym mhêl-droed merched wedi cadw gwefannau cymdeithasol ar wahân, ond yn llwyddo i ddenu mwy o gefnogwyr, yn dilyn ymgyrch fel cyhoeddusrwydd lleol, a phosteri deniadol mewn gorsafoedd rheilffyrdd cyfagos. Mae hyn wedi llwyddo i greu torf, ar gyfartaledd, o 1,851 i’w gemau.

Ond tra mae Manchester City yn arwain y ffordd i ddatblygu gem y merched ymhellach, mae yna un clwb agos iawn iddynt, sy'n dangos fawr o ddiddordeb mewn hybu pêl droed yn unedig rhwng y merched a’r dynion. A hynny, er waethaf i un o gyn chwaraewyr tîm y dynion, gael ei benodi fel rheolwr newydd tîm cenedlaethol merched Lloegr.

Er bod Phil Neville wedi ychwanegu ei lais, yn galw am sefydlu tîm merched yn Old Traffored, dim ond distawrwydd mud sydd i’w glywed yn Old Trafford, gan adael y ffordd yn glir i Manchester City ymateb yn frwdfrydig i’r galw, a thrwy hynny, llwyddo i gynnal pêl droed merched yn gyfan gwbl iddynt eu hunain yn ninas Manceinion.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Ionawr 21-27ain 2018

Nesaf