Main content

Everton a Manchester United

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda gemau rownd gyn derfynol Cwpan Lloegr yn cael eu cynnal dros y penwythnos, fe allai fod yn benwythnos cymhleth i gefnogwyr Everton a Manchester United. Gyda llawer o’r cefnogwyr yn anfodlon gyda pherfformiadau a chanlyniadau’r ddau dîm, mae eu rheolwyr o dan y lach a’r wasg yn ysgrifennu adroddiadau am eu dyfodol.

Mae nifer o gefnogwyr Everton yn galw am ben Roberto Martinez a hawdd deall pam os ydych wedi bod yn eu gweld eleni. Dim ond pedair buddugoliaeth adref hyd yn hyn, a dyma’r tymor gwaethaf i'r clwb ei gael erioed o ran canlyniadau'r tîm ar eu maes eu hunain.

Gyda pherfformiad sobor arall yn Lerpwl ganol wythnos, mae llawer wedi cael llond bol, yn enwedig o weld sut wnaeth Everton ildio i chwarae grymus Lerpwl.

Cyn ymuno ac Everton, llwyddodd Martinez i ennill Cwpan Loegr gyda Wigan yn un o gemau mwyaf annisgwyl y ffeinal.

Tipyn o gêm (roeddwn yno) ond yna'r wythnos ddilynol, collodd Wigan yn Arsenal a chollwyd eu lle yn yr uwch gynghrair.  Ymunodd Martinez ac Everton yn fuan wedyn gyda chadeirydd Wigan, Dave Whelan yn dweud nad Martinez oedd y dyn i arwain ei glwb yn ôl i'r uwch gynghrair.

Tybed felly petai Everton yn llwyddo i ennill y gwpan eleni, y bydd Martinez yn creu hanes a gweld ei hun allan o waith am yr ail dro ar ôl ennill Cwpan Lloegr?

Draw ar Old Trafford does wybod beth all ddigwydd nesaf!

Dwi wedi bod yno nifer o weithiau eleni (fel yn Everton) ac mae gwrando ar y cefnogwyr yn  barnu Louis van Gaal yn adloniant ynddo'i hun. Yna does a 诺yr os fydd van Gaal yn parhau yn ei swydd os na all United gyrraedd y pedwar olaf yn yr uwch gynghrair a chymhwyso ar gyfer Cynghrair Ewrop y tymor nesaf

Yna mae son bod Jose Mourinho yn gorwedd yn yr esgyll rhywle rownd y gornel !!! Os fydd United yn colli'r penwythnos yma, bydd llygaid pawb ar ganlyniadau'r uwch gynghrair. Os bydd United yn cyrraedd Wembley,  yn methu allan o’r pedwerydd safle, ond yn ennill y Gwpan, be wedyn ? Van Gaal yn efelychu Martinez a cholli ei swydd ar ôl ennill y Gwpan?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i ddysgwyr - Ebrill 20fed 2016

Nesaf

Lleoliadau Ffeinalau Cwpan Cymru