Main content

Lleoliadau Ffeinalau Cwpan Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Brynhawn Llun am chwarter wedi pedwar, fe fydd ffeinal Cwpan Cymru yn cael ei chynnal ar y Cae Ras yn Wrecsam rhwng Airbus UK Brychdyn a’r Seintiau Newydd.

 

Yn ddaearyddol mae’n ddiddorol nodi nad yw stadiwm y Seintiau yng Nghymru, ond dros y ffin yng Nghroesoswallt tra mae stadiwm Airbus ond rhyw dair milltir o fewn y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn sir y Fflint.

 

Ond mae'r cysylltiad rhwng timau sydd wedi eu lleoli ar y gororau wedi bod yn rhan annatod o hanes pel droed Cymru dros y blynyddoedd.

 

Y tro diwethaf i dîm o Loegr, heblaw'r Seintiau Newydd, gan eu bod yn aelodau o Gymdeithas Bel Droed Cymru ac yn chwarae yn Uwch gynghrair Cymru,  i gystadlu yn y ffeinal oedd yn 1992 pan gollodd Hednesford Town i Gaerdydd ar y Stadiwm Genedlaethol yng Nghaerdydd o flaen torf o dros ddeng mil.

 

Yn ôl yn 1936 enillodd Crewe Alexandra y Gwpan drwy guro Caer ar y Cae Ras o un gôl i ddim, a’r flwyddyn flaenorol, curodd Dinas Bryste’r gwpan drwy guro Tranmere Rovers mewn gem ail chwarae ar faes Sealand Road yng Nghaer.

 

Y Cae Ras sydd wedi cynnal y mwyaf o'r gemau terfynol yma dros y blynyddoedd, ac mae hanes y Gwpan yn ein cyfeirio at y ffeinal gyntaf a fu ar y Cae Ras nol yn 1880 rhwng y Derwyddon a Rhuthun. Hon oedd y trydydd ffeinal i gael ei gynnal am Gwpan Cymru, gyda’r gyntaf yn cael ei chwarae ar gae wedi ei osod allan ar barc Acton yn Wrecsam a chynhaliwyd yr ail ar Faes Criced Croesoswallt.

 

Mae yna nifer o fannau diddorol ac annisgwyl wedi cynnal y ffeinal ers y cychwyn.

 

Ar ôl cynnal naw ffeinal yn olynol ar y Cae Ras, penderfynwyd mynd i gae Crewe Alexandra i gynnal ffeinal 1887 rhwng y Waun a Davenham (pentref yn sir Gaer).

 

Mae’r Trallwng, Llandudno, y Waun, y Drenewydd, yn ogystal â Merthyr, Llanelli, , Aberystwyth, Glyn Ebbw, Pontypridd, Tonypandy ac Aberdâr wedi cynnal y gemau terfynol hefyd. Mae rhai o’r caeau yma wedi hen ddiflannu erbyn heddiw, gan gynnwys Parc Somerton yng Nghasnewydd, Ffordd Ffarrar ym Mangor, y Gay Meadow yn yr Amwythig, Sealand Road Caer, a Nant y Coed yng Nghyffordd Llandudno ble roedd cartref Borough United a lwyddodd i ennill y gwpan a chystadlu yn Ewrop. 

 

Yr Amwythig ydi'r tîm Seisnig sydd wedi ennill y gwpan y mwyaf o weithiau, a Henffordd yn  1990 oedd y tîm diwethaf o Loegr (gan na ellir ystyried y Seintiau Newydd fel tîm o Loegr)  i ennill y Gwpan..

 

Bydd yna digon o gyffro brynhawn Llun rhwng dau dîm sydd yn gallu chwarae pêl droed deniadol er nad ydynt rhyngddynt ei gilydd yn gallu denu torfeydd mawr i'w gemau yn gyson. Ond fe ddylai'r achlysur fod yn un da a bydd y ddau dîm yn hapus o ddeall fod yna Gwpan ar eu cyfer!

 

Y rheswm am ddweud hyn ydi mai yn y ffeinal gyntaf yna, ar y cae ar Barc Acton yn  1878mil pum cant,   doedd dim cwpan ar gael gan y gymdeithas ar gyfer yr enillwyr (Wrecsam). Ni chynlluniwyd  unrhyw gwpan na thlws ar gyfer y gystadleuaeth tan y flwyddyn ddilynol, ac mae yna lun hanesyddol o dîm buddugoliaethus Wrecsam i'w weld yn fodlon eu byd, heb gwpan na thlws o gwbl i ddynodi eu llwyddiant. Ymddangosiad cyntaf Airbus yn y ffeinal ond fe fydd y Seintiau yn chwilio am eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol, a'r bedwaredd mewn pum tymor.

 

D’oes ond obeithio y bydd yna fwy o gefnogwyr yno nag a oedd ar Barc Acton yn 1878, sef mil a phum cant a hefyd mwy nag a oedd yn y ffeinal gyntaf ar y Cae Ras, yn 1880 , sef pedari mil. Gawn ni weld!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Everton a Manchester United

Nesaf