Main content

Amgueddfa Bel-droed Wrecsam

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yr wythnos yma fe es draw i Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam dref i weld casgliad o dan y teitl  “Cyffyrddiad Cewri: Hanes Pêl-droed  rhyngwladol Cymru”.

 

Wedi ei amseru i gyd fynd ac ymddangosiad cyntaf Cymru mewn rowndiau terfynol rhyngwladol ers 1958 (heb anghofio camp 1976 gyda’r gemau ddau gymal yn erbyn Iwgoslafia yn yr wyth olaf) , mae’r arddangosfa yma’n adrodd hanes ymdrechion pêl-droedwyr gorau Cymru dros gyfnod sy’n ymestyn yn ôl i 1884.

 

Bathodyn oddi ar grys Joseph Harry Williams (o dîm Sêr Gwyn Groesoswallt) a wisgwyd ganddo mewn gem yn erbyn Lloegr a gynhaliwyd ar y Cae Ras yn Wrecsam ar yr ail o bymtheg, o fis Mawrth, 1884 oedd yr eitem hynaf ymysg y casgliad. Diddorol nodi fod y bathodyn hwn cynnwys arwyddair wedi ei weu , sef “Cymry Am Byth” yna “ The Football Association of Wales” wedi ei nyddu oddi tano - ie, ymddengys nad oedd  fawr o bwysigrwydd i gywirdeb iaith na’r defnydd o’r iaith yr adeg honno!

 

Mae crysau cyfan i’w gweld yno hefyd, rhai mwy diweddar, fel crys y golwr Dai Davies (o'r gêm yn erbyn Lwcsembwrg yn 1975) a chrys Gary Speed (o'r gêm yn erbyn Twrci ym mis Awst 1997).

 

Un o uchafbwyntiau’r nwyddau ydi cap Billy Meredith, cap piws a gyflwynwyd iddo yn dilyn y gêm yn erbyn yr Alban yn 1910. Cynhaliwyd y gêm yma oddi cartref yn Kilmarnock, o flaen torf o 22 mil gyda’r Albanwyr yn fuddugol o un gôl i ddim,  Andrew Devine y rhwydo heibio Leigh Richmond Roose yn y gôl i sicrhau’r fuddugoliaeth. Yn ogystal, uchafbwynt arall ydi crys John Charles, o’i gêm ryngwladol gyntaf, yn erbyn Gogledd Iwerddon ar yr wythfed o Fawrth, 1950, ac mae yna hefyd delegram a dderbyniwyd gan Gymdeithas Bel Droed Cymru oddi wrth glwb Juventus yn yr Eidal yn caniatáu i John Charles chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958.

 

Ond ‘dyw’r arddangosfa yma ddim wedi ei gyfyngu i chwaraewyr yn unig. Ymysg y casgliad mae medal a roddwyd i'r dyfarnwr o Abertyleri , sef Merfyn Griffiths, am fod yn gynorthwywr i'r dyfarnwr (llimanwr) yn ffeinal Cwpan y Byd rhwng Gorllewin yr Almaen a Hwngari yn y Swistir yn 1954. Yn wir, tynnodd y Cymro  nyth cacwn i’w ben yn y gêm yma, gan iddo arwyddo fod Ferenc Puskas o Hwngari, a sgoriodd gol yn y funud olaf a fyddai wedi sicrhau gem gyfartal, wedi bod yn camsefyll; penderfyniad sydd wedi cael ei gwestiynu'n aml iawn byth ers hynny. Ond, Gorllewin yr Almaen a orfu o dair gôl i ddwy gan sicrhau pencampwriaeth y byd, a dod a rhediad diguro Hwngari o dri deg un o gemau dros gyfnod o bum mlynedd i ben.

 

Mae tri chap rhyngwladol arbennig arall yn y casgliad hefyd, sef y capiau euraidd a gyflwynwyd i chwaraewyr sydd wedi cynrychioli Cymru mewn dros hanner cant o gemau gyda chapiau Simon Davies, Carl Robinson ac Ivor Allchurch yn i'w  gweld.

 

Mae’r arddangosfa yn parhau hyd at fis Mehefin 2017, ac fe fyddai cael gweld mae eitemau perthnasol yn adlewyrchu campau Euro 2016 yn ychwanegiad ardderchog i'r casgliad yma.

I unrhyw ddilynwr o’r gêm yng Nghymru, ac yn enwedig i ddilynwyr ifanc y gêm sydd ag amser i fynychu yn ystod gwyliau ysgol, mae’r arddangosfa yma yn cynnig amlinelliad o hanes y gêm ar lefel ryngwladol dros gyfnod maith.

 

Cynigia’r arddangosfa dystiolaeth dda a fyddai’n gosod tystiolaeth ar gyfer gwaith ymchwil i ysgolion lleol wrth amlinellu etifeddiaeth hanesyddol o fyd pêl-droed sy’n werth ei draddodi fel y cadwer i’r oesoedd a ddel, y glendid a fu.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Cymro Jimmy Murphy a Manchester United

Nesaf

Geirfa Pigion i ddysgwyr Gorffennaf 9fed - 15fed