Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Gorffennaf 9fed - 15fed

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beti a'i Phobol - Steven Jones

awyr agored - open air
dynes - menyw
mordwyo - to navigate
y sylfaen cywir - the right foundation
cymleth - complicated
gwybodaeth - information
hyfforddwr - trainer
profiad arbennig - a special experience
hyrwyddo - to promote
darganfod - to discover

...Steven Jones o Fethesda oedd yn arfer bod efo'r Marines ond sydd erbyn hyn yn rhedeg busnes awyr agored yn y dre. Dydd Sul mi gafodd Beti George sgwrs efo fo ynglyn â'i fywyd diddorol. Dyma i chi flas ar y y sgwrs lle mae Steven yn sôn am y math o waith mae o yn ei wneud ar hyn o bryd...


Shan Cothi - Dysgwr y Flwyddyn

dim gair o Gymraeg - no word of Welsh
ysbrydoli - to inspire
wastad - always
ymdrech - effort
sut aethoch chi ati - how did you go about it
yn gyfarwydd - familiar
credwch neu beidio - believe it or not
cyfrannu - to contribute
cyfoethog - rich
anhygoel - incredible

"Steven Jones o Fethesda wedi dod yn ôl i'w ardal enedigol ac yn hyrwyddo'r Gymraeg yn ei waith. Da ynde? Un arall sydd yn gweithio'n galed dros y Gymraeg ydy Stuart Imms. Mae Stuart yn diwtor Cymraeg ac yn cynnal dosbarthiadau bedair noson yr wythnos. Ond dysgwr oedd Stuart, ac aeth o ymlaen i ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ddeg mlynedd yn ôl. Roedd Shan Cothi eisiau gwybod pam penderfynodd o ddysgu Cymraeg yn y lle cynta..."


Aled Hughes - Mynd yn hen

urddas - dignity
dw i'n gredwr cryf - i'm a strong believer
mynd yn iau - getting younger
cyfrinach - secret
amgylchynu - to surround
ymddiddori - to take an interest in
amheus - dodgy
rwtsh - rubbish
atgofion - memories
difaru - to regret

"Stuart Imms yn dangos beth sy'n bosib ei wneud ynde? Cofiwch bydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn arall yn Eisteddfod y Fenni eleni. Mae gan S4C ddwy raglen arbennig am y gystadleuaeth, gwyliwch allan amdanyn nhw! Yn ôl pob sôn dydi pobl dros eu pedwardegau ddim i fod i wisgo trainers na jeans. Bore Mercher buodd Aled Hughes yn gofyn i Hywel Gwynfryn, sydd yn saithdeg pedwar oed, oedd o’n meddwl ei bod hi’n bwysig i fynd yn hen gydag urddas? "


Geraint Lloyd - Zanzibar

eitha tlawd - quite poor
oedolion - adults
plannu planhigion - planting plants
cyffrous - exciting
gwirfoddoli - volunteering
twmpath - barn dance
buarth - farmyard
graddio - graduating

"Hywel Gwynfryn yn fan'na yn saithdeg pedwar ifanc iawn! Faint dach chi'n wybod am Zanzibar? Doedd Geraint Lloyd ddim yn gwybod llawer am y lle ond mi gafodd o air nos Fawrth efo Mari Healy sydd yn mynd draw i weithio yno am chwe wythnos. Sut le ydy Zanzibar a be'n union bydd Mari'n ei wneud yno? Dyma be oedd ganddi i'w ddweud wrth Geraint..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Amgueddfa Bel-droed Wrecsam

Nesaf

Radio Cymru Mwy