Main content

Rownd derfynol Cwpan Europa - Chelsea v Arsenal

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mi fyddai rhywun yn meddwl fod trefnu lleoliad i ffeinal cwpan pêl droed yn fater hawdd.

Nid felly eleni mae'n ymddangos.

Hwyrach fod Madrid yn le hawdd mynd iddo i gefnogwr Tottenham a Lerpwl, ond mae’r gost o fynd yno yn cynyddu bron pob dydd a thaith yno ac yn ôl bron dros fil o bunnau erbyn hyn.

Ond, os ydych am ddilyn Chelsea neu Arsenal i ffeinal Cynghrair Ewropa yn Baku, Azerbaijan, mae gennych fwy byth o broblem. Mae ceisio cael ticed i'r gêm cymaint o drafferth ag unrhyw drafferthion eraill, gyda dim ond rhyw chwe mil ar gael i gefnogwyr y naill dim a’r llall.

Y rheswm am hynny yn ôl pob son ydi nad yw maes awyr Baku yn gallu ymdopi gyda mwy na chwe mil ol gefnogwyr o’r nail dim na’r llall.

Pam felly penderfynu chwarae’r gêm yno yn y lle cyntaf?

Mae pob math o gyhuddiadau yn cael eu gwneud am leoliad y gêm, gydag UEFA yn mynnu eu bod am fynd a gemau pwysig ar hyd a lled y cyfandir, a bod gan wledydd bychain dwyrain Ewrop (yn ôl diffiniad pêldroedaidd) hawl i weld ffeinals, yn ogystal â’r gwledydd traddodiadol yng ngorllewin Ewrop.

Dim dadl am hynny, ond gyda chwmnïau teithio yn codi crocbris wrth geisio manteisio yn fateryddol anfoesol ar ddiddordebau cefnogwyr (a pheidiwch da chi a pharablu am hawl i wneud elw) am deithio, dros ddwy fil am awyren, a llety am un noson y tro diwethaf i mi wirio, mae’n anodd iawn meddwl sut mae pethau yn cael eu penderfynu.

Ar ben hyn i gyd, mae un o chwaraewr arsenal, Henrikh Mkhitaryan wedi penderfynu, ar ôl trafod y sefyllfa efo'i deulu yn Armenia, nad yw’n ddiogel iddo fynd i Azerbaijan oherwydd y sefyllfa wleidyddol fregus sy'n bodoli rhwng Armenia ac Azerbaijan.

Gadawyd Mkhitaryan adre yn Llundain yn gynharach yn y tymor pan chwaraeodd Arsenal yn Azerbaijan erbyn Qarabag yn y gynghrair ewropeaidd..

Felly be ydi safiad UEFA ar hyn?

Fawr o ddim hyd yn hyn mae’n ymddangos.

Fodd bynnag, mae Arsenal yn mynnu y dylid cynnal trafodaethau gydag UEFA yngl欧n â'r sefyllfa a prif weithredwr y clwb yn dweud fod yr hyn sydd wedi codi yn hollol annerbyniol.

Wedi’r cwbl, mae cyfle Mkhitaryan (aelod allweddol o dîm Arsenal) i chwarae mewn gem bwysig, a'r cyfle iddo gymryd rhan mewn ffeinal Ewropeaidd sy'n ddyhead personol i unrhyw chwaraewr, wedi cael ei chwalu, heb son am effeithio ar ddewisiadau tim Arsenal ar gyfer y gem.

Rhy hwyr i newid lleoliad y ffeinal? O bosib, ond gydag UEFA yn cynnal gem mewn dinas na all dderbyn mwy na deuddeng mil o gefnogwyr, a bod anghydfod gwleidyddol yn effeithio ar bwy all chwarae yn y ffeinal, mae rhywun yn rhyw feddwl nad penderfyniadau pêl droed sydd y tu ôl i bethau yn aml iawn.

Mwy o negeseuon

Blaenorol