Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Mai 11eg-17eg 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Daf a Caryl Radio Cymru 2 - Huw Ynyr

ysgoloriaeth - scholarship
erioed - for ever
rhyw lun o - some kind of
anadlu - breathing
datblygu - to develop
cyfieithiad - a translation
mynychu - attending
ieithoedd eraill - other languages
ynganu - pronunciation
cystrawen - syntax

Cafodd Dafydd a Caryl sgwrs efo'r tenor ifanc Huw Ynyr o Rydymain ger Dolgellau ddydd Llun ar Radio Cymru 2.

Enillodd Huw ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2012 ac mae'n astudio opera yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd ar hyn o bryd.

Gofynodd Dafydd iddo fo sut ffeindiodd o ei fod o'n gallu canu?

Benbaladr - Byw yn Beijing

gweddill y byd - the rest of the world
becso - poeni
gormod - too much
llywodraeth leol - local government
enfawr - huge
cynifer - so many
ansawdd yr awyr - the quality of the air
awyrgylch - environment
llygredd - pollution
mwgwd - mask

Y tenor ifanc Huw Ynyr oedd hwnna yn siarad gyda Dafydd a Caryl.
Mae Alun Thomas yn siarad gyda nifer o bobl sy'n byw dramor ar y rhaglen Ben Baladr.

Yr wythnos diwetha buodd o'n siarad gyda Menna Pugh Jones sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond sydd erbyn hyn yn byw yn Beijing yn Tseina.

Gofynodd Alun i Menna faint oedd pobl Beijing yn cael gwybod am straeon gweddill y byd?


Aled Hughes - Ramadan

y lleuad - the moon
yn gaeth - strictly
y cyfnod - the period
wastad - always
ymprydio - to fast
adlewyrchu - to reflect
rhannu - sharing
elusen - charity
gweddïo - to pray
heddychlon - peaceful

A dyna flas ar fywyd yn Beijing ar raglen Ben Baladr. Mae hi'n fis Ramadan sydd yn un o ddigwyddiadau pwysica yng nghalendr y Moslemiaid. Mae Ameer Rana yn un o gyflwynwyr Hansh ar S4C a dyma fo'n esbonio beth yn union ydy Ramadan.

Bore Cothi - Bois y Gilfach

gaeth ei sefydlu - was established
ymateb i gais - reponded to a request
ychydig bach o frys - a bit of a hurry
parhau - to continue
arweinyddes amryddawn - a versatile (female)conductor
parch - respect
rhwydd iawn - very easy
drygionus - naughty
llefarydd - spokesman
wedi pechu rhywun - upset some one

A phob hwyl i bawb sy'n ymprydio dros gyfnod Ramadan ynde?

Cafodd Shân Cothi sgwrs gyda Heledd Williams ddydd Mawrth.

Mae hi'n arwain côr meibion Bois y Gilfach. Beth yw hanes y criw yma felly? Dyma Heledd yn esbonio.

Rhys Mwyn - Beti George

tu fas - outside
parth cysur - comfort zone
holi - questioning
rhywfaint - some
dawn - talent
mabwysiadu - adopting
cyfrin rwydd - an easy secret
dan yr wyneb - under the skin
ddim yn gyflawn - incomplete
lletchwith - awkward

Heledd Williams oedd honna yn rhoi ychydig o hanes Bois y Gilfach.

Gofyn cwestiynau mae Beti George fel arfer, felly sut deimlad oedd iddi hi orfod ateb cwestiynau Rhys Mwyn?

Rhaglen Geraint Lloyd - Rali

Clybiau Ffermwyr Ifanc - Young Farmers Clubs
uchafbwynt - highpoint
at ddant pawb - to suit everybody
aelod hyn - older memebers
tynnu'r gelyn - tug of war
cwblhau cystadleuaeth - to complete a competition
llwyfan - stage
amrywiaeth - variety
cefndir amaethyddol - agricultural background
cefnogaeth - support

Rhys Mwyn yn holi Beti George yn fan'na.

Mae cynnal rali yn rhan mawr o waith y Clybiau Ffermwyr Ifanc yng Nghymru, ond beth yn union sy'n digwydd yn y ralïau 'ma.

Aeth Geraint Lloyd draw i rali Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyddin a holi cadeirydd y Clwb, Carys Thomas.

Bore Cothi - Ellis a'r organ

anghyffredin - uncommon
y gytgan - the refrain
yn amlwg - obviously
argraff - impression
swn mawreddog - a grand sound
datblygodd o - it developed
cyfeilyddion - accompanists

Geraint Lloyd yn Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar gaeau Nant y Ci, Caerfyrddin ac yn sgwrsio gyda Carys Thomas.

Tair ar ddeg oed ydy Ellis Massareli Hughes o Ysgol Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd.

Mae o'n chwarae'r piano a'r organ, ond yr organ mae o'n licio orau. Mae hyn yn eitha anghyffredin i rywun o oedran Ellis ac aeth Shan Cothi draw i gael sgwrs gyda fo i weld sut dechreuodd y diddordeb mewn chwarae'r organ.

Post Cyntaf - Mabinogi

pedair cainc - the four branches
drwy gyfrwng - through the medium
cynulleidfa - audience
noson gymdeithasol - a social evening
yn wallgo - mad
syndod - a surprise
pioden - magpie
mewn cymeriad - in character
gwaed mas o garreg - blood from a stone
chwedlau - fables

Pob lwc i Ellis efo'i wersi organ ynde?

Trafferth ydy enw sioe newydd gafodd ei hysgrifennu'n arbennig ar gyfer y rhai sy'n dysgu Cymraeg.

Cafodd y sioe ei chomisiynu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a'r bwriad ydy cyflwyno pedair Cainc y Mabinogi i'r gynulleidfa.

Agorodd y sioe nos Fercher diwetha yng Nghastell Nedd.

Aeth Rhys Williams draw a chael sgwrs efo'r dysgwyr a gyda'r perfformiwr Tudur Phillips.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf