Ychydig o amser yn 么l fe awgrymwyd imi y dylwn drydar er mwyn dod i ddarganfod gwahanol agweddau ar bynciau. Yn fy achos i - darganfod sylwadau ar b锚l droed.
Felly y bu a diddorol - a hefyd diflas ydi rhai o鈥檙 negeseuon.
Heblaw dysgu am bethau hollol hurt fel be mae rhywun yn ei fwyta i frecwast , fe geir ambell i sylw sydd yn synnu rhywun.
Un o鈥檙 trydarwyr mwyaf cyson ydi cyn is reolwr t卯m cenedlaethol Cymru, Raymond Verhaijen.
Mae鈥檔 eithaf amlwg ei fod yn barod i gynnig ei farn am bawb a phopeth yn y byd p锚l droed. Tydi o ddim yn gefnogwr mawr o ddull chware na thactegau timau Uwch Gynghrair Lloegr ac mae yn ddiweddar wedi cyfeirio ar David Moyes fel deinasor!
Ond yn nes adref, tydi Verhaijen ddim yn meddwl llawer o drefn p锚l droed yng Nghymru wedi iddo ymadael ar 么l marwolaeth Gary Speed.
Mae鈥檙 negeseuon diweddaraf yn ei gwneud hi鈥檔 amlwg nad ydi o yn gefnogwr mawr o鈥檙 drefn hyfforddi, yr hyfforddwyr, na threfn y Gymdeithas Bel Droed o fewn Cymru.
D鈥檕es ond ichi fynd mewn i negeseuon trydar y g诺r yma o鈥檙 Iseldiroedd i ddeall beth ydwyf yn cyfeirio ato.
Ynghanol ei feirniadaethau o drefn p锚l droed rhyngwladol Cymru - fe anfonais neges ar y trydar rai dyddiau yn 么l yn ei herio i enwi'r t卯m gorau y gallasai Cymru ei roi ar y Cae, er mwyn gweld os y gallai ef wneud yn well !
Dwi eto i weld yr ymateb (os nad oes rhywbeth wedi digwydd yn ystod yr wythnos yma!).
Trist gan y byddai rhywun yn meddwl y byddai gwr sy鈥檔 ymddangos mor feirniadol yn barod i rannu ei syniadau, a chynnig ei ddewisiadau ble mae ei dafod, a rhoi pwnc trafod i ni.
Tybed be mae aelodau Cymdeithas Bel Droed Cymru yn ei wneud gyda sylwadau eu cyn weithiwr cyflogedig?