Main content

Cais Am Lais - Chwilio am leisiau newydd ar gyfer C2

Newyddion

Mae 主播大秀 Radio Cymru yn chwilio am leisiau newydd fydd i鈥檞 clywed ar rai o raglenni C2, ac yn gofyn i bobl yrru recordiad ohonyn nhw鈥檜 hunain i鈥檙 orsaf os ydyn nhw am gael eu hystyried ar gyfer y gwaith.

Cyhoeddwyd y newyddion yn fyw ar raglen Dafydd a Caryl (gyda Sh芒n Cothi yn cyd-gyflwyno oherwydd bod Caryl Parry Jones ar wyliau) fore Gwener, Medi 13, gan Huw Stephens, un o brif gyflwynwyr C2 sydd hefyd yn cyflwyno ar Radio 1.

Huw Stephens yn sgwrsio gyda Shan Cothi a Daf Meredydd wrth i C2 chwilio am leisiau newydd

Dywedodd Huw Stephens: 鈥淢ae鈥檔 gyfle gwych - ni鈥檔 agor y drysau! Di o鈥檓 yn digwydd yn aml iawn mewn gorsafoedd radio - mae鈥檔 anodd weithiau cael mewn i鈥檙 byd darlledu. 鈥橲dim ots pa fath o radio hoffech chi wneud - os ych chi am wneud pop, stwff dawns neu stwff hollol amgen a weird鈥 O lle bynnag ych chi, sdim ots pa mor dda yw鈥檆h Cymraeg chi, os ych chi eisiau dod ar y radio, a chi鈥檔 meddwl bod gyda chi y 鈥榮barc鈥 yna i ddarlledu ar C2, wel mae 鈥檔a gyfle perffaith i wneud hynny nawr!鈥

Dywedodd Golygydd Radio Cymru, Betsan Powys: 鈥淢ae gyda ni griw gwych o gyflwynwyr ar raglenni C2, ac os oes gyda chi awydd i roi tro arni, a rhoi鈥檆h stamp chi ar ein darlledu ni, dyma鈥檆h cyfle chi. Nid profiad sy鈥檔 cyfri ond wmff ac awydd i drio rhywbeth newydd.鈥

Bydd yr ymgyrch yn agored tan nos Wener, Hydref 4ydd. Er mwyn gwneud cais dylai darpar-gyflwynwyr yrru recordiad mp3, neu fel linc, at c2@bbc.co.uk cyn y dyddiad cau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan 主播大秀 Radio Cymru, sef

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 11 Medi 2013

Nesaf