Main content

De America - cyfandir gora'r byd mawr crwn

Dylan Llewelyn

Blogiwr Ar y Marc

Doedden ni ddim yn disgwyl taith cwbl didrafferth, ond teg dweud nad oedden ni'n disgwyl cymaint o strach ym 48 awr cynta’ yn Ne America - cyfandir gora'r byd mawr crwn.

Dechreuodd y miri yn Heathrow wrth i oedi'r ffleit am Madrid golygu nad oedden ni am gyrraedd mewn da bryd i hedfan am Yr Ariannin. Aros ym Madrid am ddiwrnod arall oedd cynnig dynes sych ar un ddesg BA, ond diolch i ymdrechion merch o Fangor is y Coed ar ddesg gymorth arall cawsom le ar ffleit hanner gwag oedd yn mynd yn syth i Buenos Aeres, neu BA i deithwyr profiadol fel Gwilym, Rhys a fi.

Yn gwbl anfwriadol roedd hi'n ymddangos fod ein rhag paratoadau Cwpan y Byd yn dilyn yr un trywydd a Lloegr ym Miami - glaw, mellt a tharanau. Ond diolch i'r drefn, dim Adrian Chiles nac Andy Townsend!!

A pha ffordd well i baratoi am loddest o futebol na phererindod i ambell stadiwm sy'n rhan o chwedloniaeth cystadleuaeth mwya'r blaned?

Ar ein pnawn cynta yn BA aethom draw i'r El Monumental, cartre River Plate, lle serennodd Mario Kempes wrth i'r Ariannin drechu'r Iseldiroedd dan don o ddarnau papur man.

Estadio Centenario

Ond drannoeth roedd yna fwy fyth o hanes wrth ymweld â phrifddinas Wrwgwai, Montevideo. Mae Wrwgwai yr un maint a Chymru o ran poblogaeth ond tipyn tlotach yn ariannol wrth i'r dinasyddion ennill cyflog o $500 y mis ar gyfartaledd. Ond er gwaetha'r diffyg dewis ac arian mae'r wlad fechan hon wedi ennill Cwpan y Byd ddwywaith ynghyd a dwy fedal aur pêl-droed Olympaidd. Ac yn Ne Affrica bedair blynedd yn ôl, fe ddaeth Suarez, Forlan, Cavani a'r criw yn drydydd.

Mae'n amlwg iawn gweld sut maen nhw wedi gorgyflawni. Balchder cenedlaethol a llond trol o cojones.

Oes, mae angen y rheini ar wlad lwyddodd i guro Brasil ar eu tomen eu hunain o flaen 199,000 yn Maracana. Dyna oedd yr eildro i'r La Celeste gipio'r Copa. 20 mlynedd ynghynt, Wrwgwai enillodd y Copa Mundial cynta erioed ar eu tomen eu hunain yn yr Estadio Centenario. Dyna oedd ein cyrchfan ni i weld man cychwyn y Copa ac i weld yr amgueddfa anhygoel yno yn ôl y gwybodusion.

Estadio Centenario

Cerrado! Wrth i gymylau du'r Rio del Plata gasglu uwch ein pennau, daeth hi'n amlwg fod y Museo anfarwol wedi cau er mwyn cael cot o baent, neu efallai i wneud lle ar gyfer unrhyw lwyddiant arall i'r wlad fach yn erbyn y Goleiath mewn gwyrdd, glas a melyn.

Ar ôl codi am 5.30 i fynd ar gwch am dair awr i weld un peth ym Montevideo, a gorfod gwrando ar gerddoriaeth James Blunt, roedd rhaid mynd yn ôl am y porthladd i wylio'r gêm gynta’ rhwng Brasil a Croatia yn waglaw.

Oherwydd amserlen y Buquebus dim ond hanner cynta lwyddon ni i'w wylio yng nghanol criw o Frasiliaid yn y Puerto Mercado - uffern ar y ddaear i unrhyw lysieuwr - a hynny gyda'r lluniau yn rhewi bob dau funud oherwydd y storm mellt a tharanau uwchben.

Hon oedd y storm sicrhaodd fod ein llong gartre wedi ei chanslo gan ein gorfodi i gymryd bws am 2 awr a hanner i borthladd Colonia cyn hwylio yn ôl i BA ychydig cyn hanner nos.

Fel cymaint o ymgyrchoedd aflwyddiannus Cymru dros y blynyddoedd boddi ger y lan oedd hanes Gwilym, Rhys a minnau ym Montevideo.

Ond wyddoch chi beth? Er bod cymaint wedi mynd o'i le ers gadael gorsaf Bangor fore Mawrth, faswn i'n newid dim.

Iguazu Falls fydd nesa i'r tri amigo, cyn croesi i Frasil am y tro cynta i wylio Iran yn erbyn Nigeria yn Curitiba. Ac yna Sao Paulo i weld gwlad run maint a Chymru fach yn herio San Sior. Vamos Los Charruas!! Vamos Uruguay!!

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cwpan Y Byd 2014 Brasil