Main content

Cwpan Y Byd 2014 Brasil

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Wele鈥檔 gwawrio gemau i鈥檞 cofio, ie dechreuwyd Cwpan y Byd ar dan gyda gemau cyffrous, penderfyniadau amheus gan ddyfarnwyr, dadlau oddi ar y cae yngl欧n 芒 dilysrwydd mynd a gemau 2022 i Qatar, a dadlau ymysg gwylwyr teledu yngl欧n 芒 natur y sylwebwyr yn y cyfryngau.

Ie, cyffro ym mhob man mae'n ymddangos

Mae arweinwyr Brasil yn credu mai dyma'r sbardun ac all ddechrau cyfnod newydd o ffyniant i鈥檙 dyfodol, tra mae eraill yn credu mai creu rhyw deimlad o hapusrwydd am ryw fis fydd unig effaith y gemau. Amser a ddengys.

Ond i gefnogwyr p锚l droed, ac i mi hefyd mae Cwpan y Byd yn achlysur arbennig, a hynny am fy mod, yn fy arddegau hwyr, a thymor yr Haf yn y coleg wedi dod i ben, wedi treulio beth oedd yn ymddangos fel haf hir melyn tesog, yn gweld gemau Cwpan y Byd a gynhaliwyd yn Llundain yn 1966, a hyn yn cynnwys y ffeinal.

Cyn i gyfyngderau eich cenedlaetholdeb gael y gorau ohonoch, p锚l droed oedd, ac sydd yn parhau, yn bwysig, ac ie, mi roeddwn yn Wembley pan ddaeth Lloegr yn bencampwyr y Byd, ac ie, roedd yn fraint cael dweud fy mod wedi gallu bod mewn ffeinal Cwpan y Byd, pwy bynnag oedd yn chwarae ynddi.

Yn wahanol i heddiw, roedd prynu ticedi ar gyfer y gemau yn hawdd.

Rwy鈥檔 cofio imi weld hysbysiad mewn papur newydd, rhywbryd ar ddiwedd y gwanwyn (dwi鈥檔 meddwl) gan y Gymdeithas Bel droed, yn cynnig tocynnau am wahanol brisiau - gyda set o ddeg tocyn (gan gynnwys y ffeinal) ar gael ganddynt am saith bunt a phymtheg swllt (拢7-75c heddiw).

Tocynnau sefyll wrth ochr y cae oedd y rhain, wrth ymyl ble mae chwaraewyr yn cymryd ciciau cornel, ond roedd cyflog wythnosol wrth gadw g么l i鈥檙 Bermo yng nghynghrair Canolbarth Cymru, wedi sicrhau y byddai myfyriwr y dyddiau hynny yn gallu fforddio'r saith bunt a oedd ei angen.

Ond roedd fy Mam druan wedi cynhyrfu yn lan.

Welodd hi erioed rhywun yn gwario cymaint ar gemau pel droed, ac roedd y pris o un bunt a phymtheg swllt (拢1-75) a dalais am diced i鈥檙 Ffeinal yn hollol afresymol ac uwchben pob rheswm!

Roedd yn bosibl prynu set o docynnau ar gyfer unrhyw gemau, ond roedd y set o ddeg ticed yn gwarantu cael gweld y ffeinal.

Roedd gen i ewythr yn byw yn Llundain yr adeg hynny, ac felly dyma siarad yn neis ac Yncl Ernest a鈥檌 hel hi am Lundain ar Orffennaf y degfed, mewn tr锚n o Fangor efo fy deg tocyn ar gyfer Wembley, am y mis orau a dreuliais erioed wrth ddilyn pel droed.

I wneud pethau yn well, roedd t卯m criced India鈥檙 Gorllewin hefyd drosodd, ac yn chwarae gemau ar yr Oval (yn agos iawn i d欧 fy ewythr), yn erbyn swydd Surrey.

Doedd dim byd gwell na chodi鈥檔 fore, torheulo yn yr Oval ac yna dal y tiwb i Wembley ar ddiwedd y prynhawn i weld gemau Cwpan y Byd.

Rhaid nodi hefyd na chwaraewyd pob un g锚m ar faes Wembley! Chwaraewyd y g锚m rhwng Uruguay a Ffrainc yn stadiwm athletau'r White City.

Roedd FIFA mae鈥檔 ymddangos wedi anghofio fod rasys milgwn yn cael eu cynnal yn Wembley ar nos Wener, a doedd yr awdurdodau ddim yn fodlon newid eu trefniadau ar gyfer Cwpan y Byd, FIFA, y Gymdeithas Beldroed na neb arall. Roedd rhaid cael stadiwm debyg i Wembley yn 么l y son, er mwyn tegwch, a dyna pam na chafwyd g锚m yn Highbury na White Hart Lane na unrhyw le arall, felly tiwb i orllewin Llundain, gerllaw stadiwm presnnol Queen鈥檚 Park Rangers amdani a noson gofiadwy ymysg y Ffrancwyr a鈥檜 ceiliogod.

Ie haf hir felyn 1966!

Roedd y profiad yn rhywbeth na fyddwn byth yn ei newid, a鈥檙 adeg hynny roedd cefnogi peldroed yn rhywbeth nad oedd yn cynnwys yr atgasedd tuag at dimau eraill sydd yn ymddangos ei fod yn rhan annatod o ddilyn timau erbyn heddiw (boed y rheini yn rhai cenedlaethol neu drefol).

Cefnogwyr peldroed go iawn oedd o鈥檓 cwmpas. Nid fel y rhai unllygeidiog a geir heddiw yn dangos eu hatgasedd at bawb na sydd yn cytuno, neu o鈥檙 un cefndir a hwy.

Ie, fe ddaeth Gordon Banks, Bobby Moore a Bobby Charlton yn arwyr, ond felly hefyd Eusebio, Uwe Seeler a Lev Yashin, er imi hefyd golli parch tuag at yr Ariannin a鈥檜 capten Antonio Rattin.

Ond dyna ddigon o hunan gyfiawnhau, a phregethu. Mae Cwpan y Byd 2014 wedi cyrraedd, does ddim ots gen i bwy sydd yn curo cyn belled a bod y peldroed o鈥檙 safon uchaf, y cyffro yn parhau鈥檔 ddi-dor, a鈥檓 hatgofion personol am 1966 yn cael eu cynnal llawn mor fyw ac erioed.

Rydym yn brysur ddarllen hanesion Dylan Llewelyn a鈥檌 gyfeillion ym Mrasil ar y Blog yma, a dwi鈥檔 genfigennus iawn o鈥檜 hantur ar daith i ganol gwlad ysbrydol y gem a ffeinals Cwpan y Byd.

Mwynhewch bob munud o鈥檙 achlysur.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

De America - cyfandir gora'r byd mawr crwn