Main content

Byd Iolo: Jon Gower

Iolo Williams

Mae Jon Gower yn awdur, yn ddarlledwr, yn stor茂wr ac yn adarydd, ac ar ben hyn i gyd, mae hefyd yn gwmni arbennig ac yn hen ffrind.

Mae Jon a minnau yn mynd yn 么l i ddyddiau cynnar RSPB Cymru ar ddechrau'r 1990au pan oeddwn i'n Swyddog Rhywogaethau a Jon yn Swyddog y Wasg. Wedi ei eni ym Mhwll ger Llanelli, mae gwybodaeth Jon o hanes, chwedloniaeth ac adar yn anhygoel o gynhwysfawr ac mae bore yn ei gwmni yn brofiad a hanner.

Cynffig ger Penybont-ar-Ogwr oedd ein lleoliad y tro yma, gwarchodfa sy'n nodweddiadol am amrywiaeth o degeirianau a phlanhigion prin eraill yn ogystal ag ymwelwyr pluog prin dros fisoedd y gaeaf.

Yn anffodus i ni, roedd ein hymweliad yn digwydd cwympo ar un o ddiwrnodau mwyaf gwyntog y flwyddyn felly roedd rhaid chwilio am loches yn y twyni tywod ac yn y cuddfannau sy'n amgylchynu'r llyn bas.

aderyn y bwn

Roedd yr adar hefyd wedi penderfynu osgoi'r gwynt gyda channoedd o wyddau, hwyaid a gwylanod wedi ymgasglu ar wyneb y d诺r. Ar adegau, mae aderyn y bwn (bittern), rhegen y d诺r (water rail) a'r titw barfog (bearded tit) wedi eu gweld yn yr hesg sy'n amgylchynu'r llyn bas ond gyda'r gwynt yn chwipio'r tyfiant yn ddidrugaredd, gallai haid o deigrod fod wedi cuddio yn y gors a bydden ni'n ddim callach!

Dim ots, roedd Jon yn byrlymu siarad ag yn disgrifio hanes cythryblus yr ardal ac yn olrhain stori hen gardotyn a oedd yn byw yn wyllt yn yr ardal yng nghanol yr ugeinfed ganrif.

Daeth ambell i aderyn bach heibio, fel llwyd y berth a bronfraith ac roedd ambell i hwyaden lwyd (gadwall) i'w gweld ar y d诺r ond am unwaith nid y bywyd gwyllt ond hanesion Jon o'r ardal oedd yr uchafbwynt i mi.

Mwy o negeseuon

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Hydref 7, 2014