Main content

Blog gan Paul Griffiths, awdur y gyfres ddrama gomedi, Becca Bingo

Newyddion

Ganwyd , neu Becca Jones (wedi iddi brodi鈥檙 lwmp diog o 诺r sydd ganddi), ar yr 9fed o Hydref 1954. Cyfleus iawn, deud y gwir, gan ei bod hi鈥檔 dathlu ei phen-blwydd yn 60oed ym mhennod 4 o鈥檙 gyfres gyfredol, sy鈥檔 digwydd cael ei ddarlledu ar yr 9fed o Hydref eleni. Fe gr毛wyd y cymeriad ym mis Mawrth 2014, drwy ddulliau Trydarol, er bod posib olrhain ei llinach a鈥檌 hachau i sawl cenhedlaeth o fingo-garwyr o Fethesda i Bwllheli, a phob cwmwd o Ddyffryn Conwy.

Dyna sy鈥檔 braf imi, wrth adael iddi hi, a鈥檌 chyfeillion Neli, Siarlot a Shyrli, (heb s么n am Hilda, Mari a Harri Bus), siarad yn eu tafodiaith gwbl naturiol, neu 鈥淲elsh ni yn hytrach na Welsh niws鈥. Yn gwbl fwriadol, tydi鈥檙 cymeriadau na鈥檙 gyfres ddim yn perthyn i UN dref benodol, gan mai cyfuniad o acenion a nodweddion iaith y Gogledd sy鈥檔 cael ei adlewyrchu. Falle bod rhai yn siomedig nad oes mwy o rinweddau iaith y Cofi yn perthyn iddynt, ond wedyn byddai hynny wedi caethiwo鈥檙 cymeriadau i dref Caernarfon, a鈥檓 gorfodi innau i ymchwilio a dysgu iaith wahanol. A bod yn gwbl onest, mae鈥檙 cymeriadau wedi鈥檜 hysbrydoli鈥檔 fwy gan rinweddau a chymeriadau cofiadwy Dyffryn Ogwen, yn arbennig felly'r diweddar annwyl a gweithgar Eileen Griffiths o Rachub, sy鈥檔 perthyn yn agos iawn iawn i Neli, a鈥檌 chymeriad annwyl. Yn yr un modd, mae rhinweddau (gorau) Becca yn perthyn i Megan Burnell, un arall o griw diwyd a doniol Clwb Bingo Bethesda, y cefais i鈥檙 fraint o gael ymuno 芒 nhw ar drip bingo misol i Benbedw, tua phymtheg mlynedd yn 么l, ac atgofion sydd wedi aros gyda mi, byth ers hynny! I Benmachno, Y Felinheli a Dolwyddelan mae gweddill o rinweddau (a straeon) y cymeriadau lliwgar yn perthyn, a nifer helaeth o鈥檜 hymadroddion yn codi鈥檔 naturiol o fy atgofion annwyl innau am fy rhieni.

Paul Griffiths 芒'r criw yn recordio Becca Bingo

Ateb yr angen oedd prif bwrpas y creu, a hynny am sawl rheswm. Yn gyntaf, am fod Betsan Powys yn awyddus i ehangu cynulleidfa 主播大秀 Radio Cymru. Roedd yr arolwg diweddar yn dangos yr angen am fwy o 鈥榓mrywiaeth yn s诺n, natur a lleoliad rhaglenni鈥 a cheisio denu yn 么l 鈥榬ai gwrandawyr sy鈥檔 troi at orsafoedd fel Radio 2, Heart a Real.鈥 Pan oeddwn i鈥檔 byw yn Y Felinheli a Bethesda, Radio Cymru oedd yn mynd 芒 hi, o OcsiwNia ben bora i Jonsi ganol pnawn, a John ac Alun fin nos. Rhywle, rhywsut, fe gollwyd yr elfen agos-ato-chi gyfeillgar, gymdogol, gan droi鈥檙 orsaf yn fy marn i yn rhyw fath o 鈥榞eto鈥 dosbarth Canol Cymreig, a barodd i minnau, hefyd, droi at orsafoedd eraill. Wrth ail ymweld 芒鈥檙 ardaloedd hynny yn ddiweddar, parhau mae鈥檙 cefnu ar y Gymraeg, a鈥檙 un rhesymau cwynfanus yn cael eu datgan am gynnwys 鈥榖oring鈥, 鈥榣ol gwirion鈥, 鈥榙im drama ond ll锚n yn cael ei ddarllen鈥 ac 鈥榃elsh 锚-lefal neu Welsh niws鈥, sydd yn eu dychryn, yn hytrach na鈥檔 cynnal, a鈥檜 haraf addysgu.

O鈥檙 cychwyn cyntaf, roeddwn i鈥檔 awyddus iawn bod y gyfres yn swnio fel cyfres ddrama. Cyfrwng y glust a鈥檙 dychymyg ydi鈥檙 radio, ac felly dylid apelio at y synhwyrau. Fel gyda dram芒u ar Radio 4 neu鈥檙 Archers, maen nhw鈥檔 swnio fel dram芒u, gyda dialog fyw, naturiol, rhwydd, yn hytrach na monolog neu bennod o nofel lenyddol yn cael ei ddarllen i feicroffon. Wrth recordio鈥檙 gyfres, am wythnos ym Mangor, yng nghwmni t卯m o actorion doniol dawnus, dan arweiniad Ann F么n a鈥檙 technegydd Pete, cawsom gyfle i weithio diwrnodiau 8 awr lawn, yn llwyfannu鈥檙 digwydd yn y stiwdio fechan, yn hytrach na sefyll o flaen meicroffon am gwta awr-a-hanner. Yn bersonol, dwi鈥檔 credu fod y naturioldeb gyda鈥檙 props pwrpasol, yn ychwanegu gymaint at s诺n unigryw鈥檙 gyfres, sy鈥檔 gwbl wahanol i鈥檙 purdeb, clir, a Chymraeg cywrain, eisteddfodol, sydd wedi bod mor nodweddiadol dros y blynyddoedd diwethaf. Peidiwch 芒鈥檔 ngham-ddallt i, MAE yna le i鈥檙 math yma o 鈥榙drama鈥 neu lenyddiaeth, ond fyddai鈥檔 ofid mawr gen i feddwl bod cenhedlaeth newydd yn cael eu magu i ddisgwyl mai dyma yw drama radio, go iawn.

Cyfeiriad arall y buom yn arbrofi 芒 hi oedd y gwefannau cymdeithasol, sydd bellach yn rheoli ein bywydau bob dydd. Roedd gwaith ymchwil Radio Cymru wedi dweud wrthyn nhw bod cyfresi a chymeriadau comedi鈥檙 gwasanaeth yn mynd a dod, heb ddim sylw, cynt na wedyn. Roedden nhw felly am weld cymeriadau comediol cryf oedd am gydio yn nychymyg y gynulleidfa, o鈥檙 cychwyn cyntaf. Yr arbrawf ddewisais i oedd i greu cyfrif trydar 鈥楤ecca Bingo鈥, yn gwbl annibynnol o鈥檙 主播大秀, er mwyn rhoi cyfle imi ddod i adnabod y cymeriad, a gweld sut fyddai eraill yn ymateb iddi. Roedd angen iddi fod yn ddoniol, yn ddeifiol, yn fflyrt ac yn boen, yn boncyrs ond yn benna鈥檔 ffrind i bawb, a鈥檌 chonsyrn yn codi鈥檔 naturiol o鈥檌 hymateb i bynciau鈥檙 dydd. Diolch i bawb fu鈥檔 chwarae鈥檙 g锚m, yn enwedig felly i Beti George, Sh芒n Cothi, Aled Hall, Rhys Meirion, Elen Wyn Jones a Huw Marshall am fynd i hwyl pethe, ac i鈥檙 selogion fel Gary Gwallt, Bethan Russell, Mererid Williams, Delyth Vaughan, Ianto Lloyd, Rheon Jones a Jones o Gymru, am gynnal a bwydo鈥檙 comedi. Ers cychwyn y trydar ym mis Mawrth, cyn bod run sgript yn gyflawn, run gair wedi鈥檌 recordio na鈥檌 ddarlledu, a chyn bod s么n am gastio, roedd Becca eisoes yn fyw, a thros 450 yn ei dilyn. Wrth geisio crynhoi鈥檙 chwe mis o gefndir wrth yr actores Bethan Dwyfor, buan y sylweddolais mai cyfuniad o leisiau鈥檙 pum cymeriad oedd y ffrwd trydar. Llwyddais i gyfeirio a chynnwys sawl gogwydd o鈥檙 trydar yn y gyfres orffenedig, ac mae Becca yn parhau i siarad a llenwi鈥檙 么l stori rhwng y penodau, a gobeithio rhwng y cyfresi hefyd.

Dwi ddigon call i wybod na fydd y gyfres yn apelio at bawb, ond rhowch gynnig arni, a rhowch gyfle i鈥檆h hun gnesu at y cymeriadau. Os na allwch chi uniaethu neu gytuno gyda Becca a鈥檙 genod bingo, efallai y bydd Llywela yn apelio, neu鈥檔 atgyfnerthu eich barn neu鈥檆h bwriad. Os da chi ddim yn hoffi鈥檙 gyfres yna mae鈥檔 amlwg nad chwi yw鈥檙 gynulleidfa darged. Rhowch resymau inni pam nad yw hi鈥檔 apelio, er mwyn i ninnau ddysgu. Yn yr un modd, os yw hi鈥檔 apelio, rhowch wybod, fel y gallwn weld posibiliadau鈥檙 dyfodol. Ond yn y cyfamser, yng ngeiriau鈥檙 cymeriadau, 鈥榬howch ych t卯n i lawr yn fanna, rhowch weirlas Welsh na on, a cymwch banad a ffag, dol, cyn mynd i bingo鈥. Diolch.

Paul Griffiths

Recordio Becca Bingo ym Mangor

Recordio Becca Bingo ym Mangor

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cartrefi Cymru: Gwlad Eben Fardd

Nesaf

Clwb Peldroed Wrecsam yn 150 oed