Main content

Nefar in Ewrop

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ac wedi cyffro Cwpan y Byd, be’ nesa’? Cwpanau Ewrop, a thipyn o siom gyda Derwyddon Cefn, y Bala a Chei Conna yn cystadlu yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Ewropa!

Cychwynnodd y Derwyddon yn addawol , gyda gem gyfartal adref yn erbyn Trakai o Lithuania ac oni bai am gol hwyr iawn yn y munud olaf i'r ymwelwyr, fe fyddai buddugoliaeth wedi bod yn haeddiannol i'r tîm o Gefn Mawr. Ond, roedd un gôl i Trakai yn ddigon i sicrhau mai hwy aeth ymlaen i'r rownd nesaf. Ond clod i'r Derwyddon yn erbyn tîm profiadol a lwyddodd i gyrraedd y drydedd rownd o’r gemau rhagbrofol y llynedd.

Teithiodd y Bala i San Marino i wynebu Tre Fiore ond siomedig iawn fu’r daith gyda’r Bala yn dioddef oddi wrth gamgymeriadau unigol er waethaf ansawdd eu chwarae. Roedd colli o dair gôl i ddim yn dipyn o dalcen caled ar gyfer yr ail gymal ar gae'r Rhyl, wrth i'r Sanmarinese wneud dim mwy nac amddiffyn, heb fawr o ymdrech i groesi'r llinell ganol. Gem rwystredig i'w gweld i'r rhai ohonom a aeth yno, ond yn y diwedd ymdrechion y Bala yn dod i ddim, a hwythau ar brydiau yn anfon peli hir o’r cefn i ganol amddiffyn Tre Fiore, heb fawr o lwyddiant.

Er waethaf gol hwyr yn yr ail hanner, siomedig oedd y canlyniad, yn enwedig ar sail y cymal cyntaf, a hyn yn erbyn tîm a oedd wedi ei raddio fel yr isaf o'r timau a gymhwysodd ar gyfer y gystadleuaeth eleni. Cosb felly, nid yn gymaint am berfformiad tim, ond am y camgymeriadau oddi cartref, a siawns na fydd y Bala yn edifarhau wrth sylwi fod Tre Fiore wedi colli o ddeg gol i ddim dros ddau gymal yn yr ail rownd yn erbyn Rudar Velenje o Slofenia.

Yr wythnos ddilynol, es draw i'r Rhyl eto, y tro yma i weld Cei Conna yn erbyn Shaktyror Soligorsk o Felarws. Tim profiadol, chwim, a hyblyg eu chwarae ac yn hollol wrthgyferbyniol i ddull traddodiadol y Cei o anelu eu chwarae tuag at flaenwr cryf ar y blaen. Er mai dod i gadw pethau yn amddiffynnol dawel oedd nod yr ymwelwyr, roedd eu cyd chwarae fel tim, a'u gallu i dorri ymlaen yn gyflym wrth newid cyfeiriad y chwarae, yn creu trafferthion i'r tim o Lannau Dyfrdwy .

Buddugoliaeth o dair gôl i un i Soligorsk er waethaf ymdrechion y Cei , ac yna colli o ddwy gol i ddim oddi cartref. Ond dyma o bosib oedd y gêm fwyaf anodd i'r timau Cymreig yng nghynghrair Ewropa gyda Soligorsk heb golli mewn deuddeg gem, gyda’u colled mwyaf diweddar yn erbyn BATE Borisov sydd yn brofiadol iawn ac wedi chwarae yn erbyn rhai o brif dimau Ewrop ar y llwyfan cenedlaethol.

Siom arall yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr wrth i'r Seintiau Newydd golli o bum gol i ddim oddi cartref yn Shkendija o Facedonia. Fodd bynnag, arweiniodd hyn at un o gemau bythgofiadwy’r gystadleuaeth wrth i’r Seintiau geisio gwneud rhywbeth na dim ond Barcelona a lwyddodd i'w gyflawni yn y gystadleuaeth yma, sef sgorio o leiaf bedair gwaith yn yr ail gymal i sicrhau buddugoliaeth (PSG 4-0 Barcelona; Barcelona 6-1 PSG yn 2017).

Ar noson llawn cyffro, ar Neuadd y Parc, llwyddodd y Seintiau i fynd dair gôl ar y blaen erbyn yr egwyl, ac er waethaf ymdrechion agos a welodd y Seintiau yn taro’r postyn, daeth y bedwaredd gol ond yn eiliadau olaf y gêm gan adael pethau yn rhy hwyr am ddod yn gyfartal.

Stori arall o ond, oni bai a phetai ! Fodd bynnag mae rheolau Ewrop yn golygu y bydd y Seintiau yn cael eil gynnig drwy chwarae yng Nghynghrair Ewropa nos Iau nesaf, (a’r wythnos ddilynol) yn erbyn tim o Gibraltar, sef y Lincoln Red Imps.

Llwyddodd y Seintiau i drechu Ewrop FC o Gibraltar yng Nghynghrair y pencampwyr y llynedd ac fe ddylai'r cyffro diweddar ar Neuadd y Parc fod yn sbardun enfawr iddynt wynebu'r gêm yma yn llawn hyder.

Y Feniw yn Neuadd y Parc, Croesoswallt, yw’r lle i fod nos Iau felly.

Y Seintiau Newydd yn erbyn y Lincoln Red Imps.

Cyn cloi, , sylw i mwy o Gymry ar lwyfan Ewrop gyda’r dyfarnwr Iwan Arwel Griffith o Landudno, sydd hefyd yn aelod o dim rhaglen Ar y Marc, yn dyfarnu’r gem yng Ngynghrair Ewropa Andorra rhwng Endorany a Kaitar o Kasakhstan. Gem brysur a llawn digwyddiadau wrth iddo ddangos chwe cerdyn melyn i wahanol chwaraewyr yn ytod y gem).

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Gorffennaf 9fed - 14eg 2018