Main content

Peldroed yng Ngemau'r Olympaidd yn Rio

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn dilyn cyhoeddiad FIFA fore Gwener diwethaf ymddengys na fydd Tîm pêl droed yn cynrychioli Prydain Fawr yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Rio oni bai bod pob un o’r gwledydd cartref yn cytuno.

Mae Cymdeithasau pêl droed Cymru a Gogledd Iwerddon eisoes wedi cyhoeddi na fyddant yn cefnogi cais Cymdeithas bel droed Lloegr i ail sefydlu’r tîm yma, a hyn wedi i Loegr ddweud mai tîm ar gyfer y gemau Olympaidd Llundain oedd hen i fod, a dim ail gynnig ar y syniad i'r dyfodol.

Ond, mae’n edrych mai Cymru a Gogledd Iwerddon fydd yn ennill y dydd, a’r wers i ni gyd mae’n debyg ydi amau yn gryf unrhyw beth mae Cymdeithas pêl droed Lloegr yn ei addo i’r dyfodol.

Heb gefnogaeth holl gymdeithasu pêl droed Prydai, ni fydd FIFA yn ystyried tîm Prydeinig, a dyna yn union, mae’n ymddengys fydd am ddigwydd. Dywedodd is lywydd FIFA,  Jim Boyce y byddai rhaid i bob gwlad Brydeinig  i gydsynio i'r Gymdeithas Olympaidd Prydain os fydd FIFA am roi caniatâd ilr tîm yma gymryd rhan yn Rio.

Dywedodd cymdeithas bel droed yr Alban, sydd hefyd yn ymddangos fel petaent yn gwrthwynebu'r syniad, y gallai sefydlu tîm o’r fath yma fygwth ei haelodaeth annibynnol o FIFA.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf