Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: Mawrth 16, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Post Cyntaf - Daeargryn Japan

daeargryn - earthquake
tawelwch - silence
trychineb - disaster
dros dro - temporary
pryderon - concerns
cyfryngau - media
ymchwil diweddaraf - the most recent research
arbenigwyr - experts
gwrthddweud - to contradict
halogiad - contamination

.. mae hi'n bedair blynedd ers y daeargryn yn Japan pan achosodd tsunami broblemau ofnadwy yng ngorsaf niwcliar Fukushima. Dydd Mercher ar y Post Cyntaf cafodd Kate Crockett sgwrs efo Maxine Hughes, sydd yn gweithio fel newyddiadurwraig yn Tokyo. Ydy effaith y digwyddiad ofnadwy yma i'w weld heddiw? Dyma Maxine yn rhoi syniad da i ni o sut mae pethau yn Japan erbyn hyn...

 

Dan yr Wyneb - Magna Carta

sylw - attention
canmlwyddiant - centenary
arddangosfa - exhibition
dogfen - document
cyfnod - period
arweinydd - leader
Y Mers - The Marches
gwrthryfela - rebellion
awdurdod - authority
perthynas briodasol - marital relationship

Maxine Hughes yn fan'na yn rhoi syniad i ni sut mae pethau yn Japan yn dilyn y drychineb ddigwyddodd yn Fukushima bedair blynedd yn ôl. Awn ni yn ôl dipyn pellach mewn hanes rwan - wyth can mlynedd a dweud y gwir, i'r flwyddyn yr arwyddywyd y Magna Carta. Mae yna lawer o bethau'n cael eu cynnal i gofio am y digwyddiad hwn, ond ai rhywbeth i Loegr yn unig oedd y Magna Carta? Ac oes yna ormod o sylw yn cael ei roi iddo? Dyma farn yr Athro John Gwynfor Jones a'r Athro Huw Price ...

 

Bore Cothi - Island Farm

gwersyll carchororion rhyfel - prisoners of war
dihangodd chwedeg saith - 67 escaped
penderfyniad - decision
addas - suitable
cyflwr - condition
gwarchodwyr - guards
awyddus - eager
dianc - to escape
palu - to dig
yn raddol - gradually

...yr Athro John Gwynfor Jones a'r Athro Huw Price yn fan'na yn sôn am y Magna Carta. Dan ni am aros ym myd hanes rwan efo Tomos Morse yn rhoi ychydig o gefndir, ac ychydig o straeon am wersyll carcharorion rhyfel Island Farm ger Penybont, efo'r hanesydd Mike Clubb. Mae'r stori dan ni'n mynd i'w chlywed yn debyg iawn i'r stori yn y ffilm 'The Great Escape'. Gwrandewch ar hyn...

 

Beti a'i Phobol - Chris Jones

cerddor - musician
Gwyl werin - Folk festival
prif lwyfan - main stage
cymysgu - to mix
cynrychioli - representing
yn gyfarwydd iawn - very familiar
cantorion - singers
cydweithio yn y dyfodol - to collaborate in the future
yn fyw - live
rhannu cerddoriaeth - sharing music

...a dyna hanes gwersyll carcharorion rhyfel Island Farm ger Penybont ar Bore Cothi ddydd Mawrth diwetha. Ac i orffen yr wythnos hon clip bach o Beti a'i Phobl. Dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd Beti George efo'r cerddor Chris Jones am ei brofiad o fynd i wyl werin yn Kansas, yng Ngogledd America...

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Peldroed yng Ngemau'r Olympaidd yn Rio