Main content

Y Cymry Newydd

Newyddion

Mewnfudwyr – gair sydd yn codi braw, gwrychyn , cam ddealltwriaeth, rhagfarn a'r ffon ar Taro'r Post.

Mewnfudwyr - gair y cyfnod, gair y ganrif ac yn sicr fe fydd yn air yr etholiad.

Daeth y syniad am wneud cyfres am fewnfudwyr yn sgil canlyniad cyfrifiad 2011. Yr iaith wedi colli ei thir yn siroedd y gorllewin, ystadegau yn dangos bod rhai pentrefi a chymunedau bellach wedi colli mwyafrif eu siaradwyr Cymraeg, cynnydd ym mhoblogaeth h欧n Cymru, anobaith , anobaith, anobaith. A bod poblogaeth Cymru bellach yn cynnwys 25% o bobl a anwyd y tu hwnt i Glawdd Offa. Cymru yw’r wlad sydd a’r nifer uchaf o fewnfudwyr yng ngwledydd y DU.

Cerdded o gwmpas trefi marchnad y gorllewin, a gresynu clywed dim ond acenion Saesneg ar ambell i ddiwrnod mewn llefydd fel Castell Newydd Emlyn, Llanymddyfri a Llambed. Teithio o amgylch Cymru a sylwi pa mor hen yw’r boblogaeth, a pha mor llwm yr olwg yw ambell bentref gwledig. Ac yn gap ar y cyfan y rhwystredigaeth o geisio chwilio am hen gartref Caradaoc Evans ger Rhydlewis. Dim ond rhyw chwarter milltir oeddwn i o Lan Las. Holi 3 pherson “d诺ad” ar ochr heol am gyfarwyddiadau . Doedd dim syniad ganddynt ble roedd y fferm, enw'r fferm na phwy oedd Caradoc er eu bod i gyd yn “local”.

Felly dyma fwrw ati i holi rhai o’r Saeson sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru, rhai ers dros 40 mlynedd ac eraill sydd ond wedi byw yma am rai misoedd. Roedd y mwyafrif a holais wedi dysgu Cymraeg ond wrth gwrs yn ôl y Cyfrifiad lleiafrif bach o oedolion ( 5%) sydd yn llwyddo i ddysgu Cymraeg yn rhugl.

Roedd rhai wedi dysgu Cymraeg ers blynyddoedd, rhai newydd ddechrau ar y daith ieithyddol ac yn llwyddo yn wych, ac eraill wedi ei amsugno o’r ysgol a’r gymuned leol. Ac roedd ymdrech a gorchest rhai ohonynt wrth fynnu sgwrsio yn eu hail iaith yn fy llenwi ag edmygedd Roedd eraill heb ei dysgu ond roedd eu plant yn medru’r iaith ac eraill â dim diddordeb.

Cafodd rhai eu geni yma, dilynodd eraill y dorf o’r dref i ddilyn bywyd syml ym mhentrefi Ceredigion yn y 70au, ac ymddeol yma wnaeth eraill - ambell un er mwyn dilyn gyrfa fel artist. Teimlai rhai eu bod bellach yn Gymry, eraill eu bod dal yn Saeson, a doedd rhai ddim yn poeni taten am hunaniaeth o gwbl ond yn pwysleisio pwysigrwydd teyrngarwch at ardal neu gymuned.

Mae’n amlwg bod llawer ohonynt yn cyfrannu tipyn i’w cymunedau lleol ac yn ysgwyd pethau a chyflwyno syniadau arloesol i gefn gwlad , e.e. y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth Ac er eu bod yn fewnfudwyr roeddent yn ymwybodol iawn o ganlyniadau negyddol mewnlifiad a’i effaith ar gymunedau.

Ond yn anffodus dyma un o symptomau globaleiddio a thra bod Cymru yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ac yn rhan o wladwriaeth Brydeinig does dim byd y gellid ei wneud i atal symudiad poblogaeth. Bydd rhaid inni geisio ein gorau i gynnwys y bobl yma yn ein cymunedau ni, eu hannog i fabwysiadu'r iaith (neu i’w chefnogi) a pheidio cyfaddawdu mor rhwydd os nag yw bobl yn barod i integreiddio a pharchu ein diwylliant.

Rwy’n gobeithio bod yna negeseuon positif gan  i roi i ni fel cenedl. Wedi’r cyfan rydyn ni i gyd wedi dod o rywle , yn ôl ein DNA!

Gaynor Jones, Cynhyrchydd rhaglen

Rhaglen

Matthew Spikes, Valeriane Leblond, Alban, Wyre gyda Beti George

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar Y Marc - Awyrgylch mewn gemau