Main content

Blog Ar Y Marc - Awyrgylch mewn gemau

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn dilyn y traed moch a wnaethpwyd o gyflwyno gem rygbi rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm nos Wener ddiwethaf, allai ddim ond meddwl fod y cyfleodd a gaiff cefnogwyr i greu awyrgylch eu hunain yn prysur ddiflannu.

A cyn i chi feddwl mai rhyw ragfarn ar y byd rygbi ydi hyn, mae yna ddigon o enghreifftiau eraill ble mae’r un peth wedi digwydd mewn gemau pêl droed. Dywedodd y bardd Eifion Wyn unwaith am i ni wisgo cenhinen yn ein cap, a'i gwisgo yn ein calon.

Wrth weld cynifer o gefnogwyr yn gwisgo sgarffiau, cenhinen, capiau a phob math o addurniadau Cymreig, anodd oedd credu fod angen creu rhyw heip Americanaidd i godi hwyl ymysg cefnogwyr sydd wedi hen arfer a chreu eu hawyrgylch unigryw eu hunain wrth ganu Deleila, Calon Lan a Chwm Rhondda cyn y gêm.

Ceir rhyw awyrgylch blastig ffals tebyg draw yn Old Trafford, gyda cherddoriaeth a chaneuon yn cael eu harwain gan alwad y corn gwlad cyn y gemau erbyn heddiw.

Yn wir, yn lle’r ffrio ffair a’r ffrwst a welwyd yn y gorffennol, dwi’n rhyw deimlo mai dim ond sobrwydd, mwynder a diolchgarwch a roddir cyn i Rooney, van Persie a’r gweddill ymddangos ar lwyfan y breuddwydion.

Breuddwyd ffôl a gafwyd draw yng Nghaerdydd fodd bynnag; hunllef o noson a dweud y gwir. Roeddwn wedi cael fy argyhoeddi dros y blynyddoedd fod cefnogwyr rygbi yn bobol gwrtais ac yn fonheddwyr, wrth edrych ar y lluniau ar y teledu doedd hi’n ymddangos fel petai yna fawr o sobrwydd o gwmpas y lle wrth i fonheddwyr y bel hirgrwn fynd yn ôl ac ymlaen i brynu galwyni o gwrw!

Gem ryngwladol yn cynnig cymaint tuag at ddathlu ffitrwydd, bwyta ac yfed yn iach ond cymaint o gwrw yn cael ei brynu a’i yfed o fewn y stadiwm a'i gyfleusterau fel bo’r achlysur yn gwneud i gystadleuaeth ddartiau edrych fel cyfarfod o gymdeithas y dirwestwyr.

Ar y Sul dilynol aeth Manchester United draw i ganol Cockneys yr Eastenders, sef West Ham.

Yno cyn y gêm roedd cymanfa gyhoeddus, o gefnogwyr croch eu llais wrthi'n cyfarch eu tîm gyda chytgan o ‘I’m Forever Blowing Bubbles’.

A be ar wyneb y ddaear mae cefnogwyr pêl droed yn ei wneud yn canu am fybls? Stori ddiddorol.

Y gred draddodiadol ydi bod yna chwaraewr ifanc, Billy Murray a oedd yn chwarae i dîm ysgolion ardal West Ham, ar faes y tîm yn Upton park (gemau a oedd yn tynnu tyrfaoedd o filoedd ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf).

Ymddengys fod yna debygrwydd rhwng ymddangosiad Murray a'r bachgen bach a oedd a'i lun ar hysbysiad sebon, ac a oedd yn chwythu bybls gyda'r sebon yn y llun! Felly'r cysylltiad â'r gan a West Ham!

Ond ceir stori arall sy'n honni nad cefnogwyr West Ham oedd y cyntaf i ganu'r gan boblogaidd yma mewn gem bel droed.

Mae'r honiad yna yn cael ei chysylltu â chefnogwyr Abertawe a ganodd, yn ol son, y gan ar gae'r Vetch cyn gem gwpan Lloegr yn erbyn Bury yn 1921.

Yna ceir hanes iddynt ganu'r gan eto yn y gêm gwpan ddilynol yn erbyn West Ham yr un flwyddyn. Gan fod cefnogwyr y tîm o Lundain wedi cael gafael ar y gan, fer benderfynwyd ei mabwysiadu fel can iddynt eu hunain!

Ond mae yna honiad arall, sydd yn gysylltiedig â'r Ail Ryfel Byd.

Credir fod can y Bybls yn cael ei chanu gan y torfeydd a gyfarfu mewn llochesi tanddaearol yn ystod y cyrchoedd awyr dros ddwyrain Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Arweiniodd hyn at gynnydd mewn canu cymunedol a gododd ysbryd y trigolion yn ystod y bomio.

Ymddengys hefyd fod cefnogwyr West Ham wedi canu'r gan yma yn ystod Ffeinal Cwpan y Gynghrair y Rhyfel yn 1940 yn Wembley. Enillodd West Ham y gwpan a’r gred ydi fod y cefnogwyr wedi cymryd fod canu I’m Forever Blowing Bubbles fel arwydd o lwc dda.

Pwy a 诺yr pa un o’r storiâu yma sydd yn wir?

Ond mae un peth yn sicr, pan nad oes yna heip artiffisial a ffals yn rhagflaenu gemau mawr, fe all cefnogwyr rygbi a phêl dorred greu awyrgylch unigryw eu hunain heb unrhyw gymanfa gor-gynlluniol ffug i’w ysbarduno ar gyfer yr achlysur.

Tybed a fyddai cael Wali Tomos yn cyhoeddi ‘Rhowch hell iddyn nhw hogia’; rhowch hell iddyn nhw !’ wedi bod yn fwy o sbardun nos Wener ddiwethaf!

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Y Cymry Newydd