Main content

Rownd gynderfynol Cwpan Her Yr Alban - Cei Connah v Caeredin

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Noson fawr ar Lannau’r Ddyfrdwy Sadwrn yma, pan fydd Cei Connah yn wynebu Dinas Caeredin yn rownd gyn derfynol Cwpan Her yr Alban.

Ond mae bron bod pob yn gêm fawr ar Faes Stadiwm Coleg Glannau Dyfrdwy'r dyddiau yma gyda’r Nomadiaid ar frig Uwch gynghrair Cymru.

Cadarnhawyd eu lle'r wythnos diwethaf gyda buddugoliaeth o chwe gôl i ddwy yn erbyn Caernarfon, a hyn yn dilyn buddugoliaeth o dair gôl i un oddi cartref yng Nghaerfyrddin.

Ar y llaw arall, mae Caeredin, sydd yn ffefrynnau i ennill dyrchafiad i Gynghrair Pencampwriaeth yr Alban, wedi baglu ychydig yn ddiweddar, gan golli un, bod yn gyfartal ddwywaith, ac ond wedi ennill unwaith yn neu pedair gem ddiwethaf.

Cyfle felly i Gei Connah dorri cwys newydd yn eu hanes, ac yn hanes pêl droed Uwch gynghrair Cymru , drwy ddod y tîm cyntaf i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Her yr Alban, sydd i mi yn un o lwyddiannau mwyaf y drefn i gynnig cystadleuaeth amgen, ddiddorol ac arloesol i dimau o'r Alban, Cymru, Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon, yn ogystal â’r Gyngres yn Lloegr.

Mae’r Nomadiaid eisoes wedi curo Falkirk ‘nol ym mis Medi, cyn rhoi cweir i Coleraine o Ogledd Iwerddon, ac yna chwalu Queens Park ar Stadiwm ryngwladol Hampden.

Ar y llaw arall, mae Caeredin wedi trechu Albion Rovers, East Kilbride, ac Arbroath, cyn trechu Alloa Athletic yn rownd yr wyth olaf.

Bydd y gêm nos Sadwrn yn cael ei chwarae i'r diwedd, gydag amser ychwanegol a chiciau o'r smotyn i benderfynu’r canlyniad, os fydd eu hangen.

Y gic gyntaf am 7.25 a’r gêm hefyd yn fyw ar Sgorio ar S4C

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf