Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg: 11eg Chwefror 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Dei Tomos - potsiars

hanesydd - historian
medrech ddadlau - you could argue
gan amla(f) - more often than not
cwngingod - rabbits
cael ei chyhuddo - was accused
tystiolaeth - evidence
rhywdi - nets
(y)sgwarnogod - hares
ffein go lew - a substanstial fine
enghraifft - example

Mae Einion Thomas yn hanesydd ac mi gafodd e sgwrs gyda Dei Tomos am fyd y potsiars. Y cwestiwn oedd gan Dei iddo fe oedd beth oedd rhan meched yn hyn i gyd...?

Rhaglen Gari Wyn - Lona Mason

amrywio - to vary
crair - relic
cydio - to grasp
uned gadwraeth - conservation unit
llyfryn - booklet
mwy enwog - more famous
seryddiaeth - astronomy
cynnar - early
cysylltiad - connection
anffurfiol - informal

Ychydig o hanes merched yn potsio yn ardal y Bala yn fan'na ar raglen Dei Tomos. Yn ail raglen cyfres Gari Wyn ddydd Llun, aeth Gari i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Cafodd e sgwrs gyda Lona Mason, sy’n gweithio yn yr Amgueddfa. Un cwestiwn gofynnodd Gari i Lona oedd, o’r holl bethau yn yr Amgueddfa, pa un sydd wedi rhoi'r pleser mwya iddi hi...?

Rhaglen Beti George - Cariad

creiriau - relics
gwallgofrwydd - madness
dylanwad yr ymennydd - the influence of the brainbrain
colli ffydd - to lose faith
gradd dosbarth cynta - first class degree
iselder - depression
iechyd meddwl - mental health
darganfod - to discover
hud - magic
gofalus - careful

Golwg ar un o greiriau y Llyfrgell Genedlaethol yn fan'na ar raglen Gari Wyn. Beth yn union ydy cariad? Yy o'n fatn o wallgofrwydd, neu oes yna rhyywbeth mwy iddo fe? Dyna mae'r actores Carys Eleri yn ei drafod yn y clip nesa 'ma o raglen Beti a'i Phobol. Mae Carys wedi creu sioe sy'n trafod dylanwad yr ymennydd ar gariad. Dyma hi'n dweud wrth Beti George sut cafodd hi'r syniad am y sioe...

Rhaglen Rhys Mwyn - Mods Cymru

lleoliad - location
cysylltiedig - connected
lle delfrydol - an ideal place

Wel, beth dych chi'n feddwl ydy cariad - gwallgofrwydd neu hud? Carys Eleri yn codi cwestiwn pwysig iawn yn fan'na ar y rhaglen Beti a'i Phobol. Ydych chi'n ddigon hen i gofio'r Mods? Criw o bobol ifanc oedden nhw oedd yn gwisgo mewn ffordd arbennig, oedd yn gwrando ar fath arbennig o fiwsig ac yn aml iawn oedd yn reidio scooters. Mae
Claire Mahoney wedi ysgrifennu llyfr "Welsh Mod - Our Story" ac mae llun un o'r Mods Cymraeg , Lewgi Lewis o ardal Porthmadog, yn y llyfr. Haydn Denman oedd ffotograffydd swyddogol y llyfr a chafodd Rhys Mwyn sgwrs gyda Lewgi a Haydn nos Lun diwetha.

Bore Cothi - Glyn Wise

Pwy well..? - Who better...?
y Dwyrain Pell... - The Far East
diwylliant - culture
deufis - 2 months
syrthio mewn cariad - to fall in love
anghygoel - incredible
dymchwel - to demolish
mae'r oes yn newid - the age is changing
adnabyddus - famous
cymaint o weithiau - so many times

Un o Mods ardal Porthmadog yn fan'na yn siarad gyda Rhys Mwyn. Mae Glyn Wise yn dod o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol, sydd ddim yn bell iawn o Borthmadog wrth gwrs. Dwi 'n siwr eich bod yn cofio Glyn ar Big Brother flynyddoedd yn ôl. Yn dilyn y rhaglen honno buodd yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Erbyn hyn mae Glyn yn byw yn Shanghai ac yn gweithio fel athro Saesneg yno. Pwy well felly i siarad am y flwyddyn newydd Sieneaidd na fe? Dyma flas i chi ar sgwrs gafodd e gyda Shan Cothi ble oedd Glyn yn sôn am sut mae o'n treulio ei wyliau yn y Dwyrain Pell...

Rhaglen Geraint Lloyd - Gwacamoli

y lôn arall - the other road
y nawdegau hwyr - the late ninetees
w'st ti be? - do you know what?
ail-ffurfio - to re-form
adeg cyffrous iawn - a very exciting time
safon - standard
annog - to encourage
disgyblion - pupils
cyfleoedd - opportunities
offerynau - instruments

Wel mae Glyn Wise yn mywnhau ei hun yn crwydro o gwmpas Asia on'd yw e? Roedd yna lawer o sylw i gerddoriaeth Cymraeg yr wythnos diwetha oherwydd Dydd Miwsig Cymru. Roedd Geth Thomas yn arfer canu gyda band oedd yn adnabyddus yn y nawdegau - Gwacamoli. Erbyn hyn mae Geth yn athro cerdd ar Ynys Môn. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda fe nos Lun a dyma i chi ran o'r sgwrs ble mae Geth yn rhoi ychydig o hanes y band...

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Viva Gareth Bale !