Main content

Effeithiau gor ymarfer mewn pel-droed

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Hwyrach y bydd rhai ohonoch yn cofio Dave Challinor fel rheolwr ar glwb Bae Colwyn rhyw chwe mlynedd yn ôl. Yna fe ymunodd a chlwb Fylde , a oedd yr adeg hynny yn gorwedd ddwy adran yn is na’r Bae yn nhrefn pyramid pêl droed Lloegr.

Mewn erthygl ym mhapur newydd The Guardian yr wythnos yma, dywedodd Challinor fod gan Fylde gynllun hir dymor clir (dros bymtheng mlynedd) , gyda'r bwriad o gyrraedd Adran Dau o fewn trefn y gynghrair Bel Droed yn Lloegr.

Hyn, meddai, yn wahanol i uchelgais Bae Colwyn, a oedd yn ei farn o, yn ddim mwy nac aros yn yr un gynghrair yn barhaol. Barn sydd yn awgrymu i mi mai llawer gwell, ac uchelgais llawer mwy realistig, fyddai ymuno ac Uwch Gynghrair Cymru (ond stori arall fyddai honno).

Fodd bynnag, mae Challinor wedi cyfrannu'n helaeth at geisio gwireddu amcanion Fylde ac wedi llwydo i ennill tri dyrchafiad i'w glwb ers iddo ymuno.

Ar hyn o bryd , mae Fylde yn sefyll yn y deuddegfed safle yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr (yr un gynghrair a Wrecsam) ond heno yn wynebu Wigan Athletic yn ail rownd Cwpan Lloegr.

Roedd Paul Cook, rheolwr Wigan, a Dave Challinor ar un adeg nol yn y naw degau, yn cyd chwarae yn nhîm Tranmere Rovers, gan achosi llawer o syndod mewn genau cwpanau, er enghraifft drwy guro West Ham yng Nghwpan Lloegr.

Un o brif dacteg Tranmere y dyddiau hynny oedd tafliadau hir Challinor, tafliad mor hir nes iddo yn swyddogol ddal y record am daflu pêl droed am yr hiraf (a hynny wedi ei fesur yn ofalus).

Ond, diddorol ydi nodi fod yr erthygl amdano yn dweud nad ydi o byth yn taflu pêl mewn sesiynau ymarfer gyda Fylde'r dyddiau yma.

Anafiadau i'r cefn a’r ysgwyddau ydi'r rheswm yn ôl Challinor, a hynny medda fo yn ôl barn ei feddyg. Dyma effaith gôr ymarfer, neu gôr daflu, tro ar ôl thro, y bel mewn sesiynau ymarfer nôl yn ei amser fel chwaraewr llawn amser.

Diddorol ydi nodi hyn, yn enwedig gan fod yna gymaint o bryder wedi codi yn ddiweddar am effaith penio’r bel ar iechyd cyn chwaraewyr ac mae’r rhaglen ddiweddar ar y teledu gydag Alan Shearer

(Dementia, Football and Me) wedi amlygu hyn yn dda.

Ond, un cwestiwn sydd yn codi i mi o hyn i gyd ydi, ai effaith penio pêl ynddo'i hun sydd yn achosi trafferthion meddygol, neu effaith gôr benio'r bel yn barhaus , dydd ar ôl dydd, mewn sesiynau ymarfer ydi craidd y broblem?

Ydi cyn chwaraewyr amatur neu rhai ran broffesiynol, a oedd ond yn ymarfer unwaith neu dwywaith yr wythnos, ac ond yn ymarfer penio'n achlysurol , neu ychydig mewn gemau, yn dangos yr un symptomau ac yn dioddef i'r un graddau?

Felly hefyd fe ellir gofyn yr un peth am effaith taflu'r bel yn nerthol a hir, fel oedd Dave Challinor yn ei wneud. Ai drwy daflu yn bell, neu drwy gor ymarfer taflu yn bell, mae'r math yma o anafiadau wedi codi ?

Esiamplau hwyrach o effeithiau niweidiol o sgiliau pêl droed ar y corff, ond, a’i drwy gôr ymarfer mae hyn yn digwydd, neu a ydi penio neu daflu pêl droed yn nerthol yn niweidiol ynddo’i hun.

Mae yna lawer i ymchwilio iddo a llawer i'w ystyried a'i ateb.

Mwy o negeseuon