Main content

主播大秀 Radio Cymru 2 i ddarlledu bob bore'r wythnos o 29 Ionawr 2018

Newyddion

Bydd 主播大秀 Radio Cymru 2 yn darlledu o flwyddyn nesaf ymlaen - gyda'r rhaglen gyntaf yn darlledu'n fyw ddydd Llun, 29ain Ionawr. Yn dilyn hynny, bydd sioe frecwast ar yr awyr saith bore'r wythnos ar Radio Cymru 2 a hynny ar DAB, y wefan, 主播大秀 iPlayer Radio a theledu.

Dywed Betsan Powys, Golygydd 主播大秀 Radio Cymru: "Mae 主播大秀 Radio Cymru 2 yn rhoi cyfle i ni ddathlu'r ffaith nad yw pob gwrandawr yn gwirioni 'run fath. Y cynnig fydd sioe frecwast hwyliog, llawn cerddoriaeth, cwmni a chwerthin bob bore'r wythnos i'r rhai sydd eisiau hynny. Ac i'r rhai sydd ddim, ac sy'n mwynhau ac yn gwerthfawrogi'r rhaglenni newyddion ar Radio Cymru, fydd 'na ddim newid.

"Bydd ambell lais yn gyfarwydd iawn, ambell un yn llai cyfarwydd ac ambell lais yn trio rhywbeth newydd - a nod pawb fydd eich darbwyllo chi i droi bob bore at griw Radio Cymru 2 dros frecwast."

Disgwylir cyhoeddiad pellach am gyflwynwyr yr orsaf dros yr wythnosau nesaf. Ni fydd newid i amserlen Radio Cymru ar FM a DAB.

Mewn araith yng Nghanolfan Pontio, Bangor nos Lun (Tachwedd 27ain), dywedodd Cyfarwyddwr 主播大秀 Cymru, Rhodri Talfan Davies, fod datblygiad Radio Cymru 2 yn rhan o ehangu digynsail o wasanaethau Cymraeg i ymateb i anghenion y gynulleidfa sy'n newid yn barhaus.

"Dyma gyfnod o arloesi ac arbrofi, wedi ei danio gan gynulleidfaoedd sy'n newid yn ogystal â chwyldro technolegol.

"Dros gyfnod o dair blynedd, mae 主播大秀 Cymru Fyw wedi dod yn ganllaw hanfodol i Gymru i fwy na 50,000 o bobl bob wythnos; mae 主播大秀 iPlayer wedi trawsffurfio sut mae modd gweld cynnwys ar draws Cymru; mae cyfres S4C Hansh yn torri drwy'r cyfryngau cymdeithasol fel erioed o'r blaen a rwan mae 主播大秀 Radio Cymru yn lansio ail wasanaeth digidol i gynnig dewis clir i wrandawyr.

"Mae'r newidiadau yn digwydd ar gyflymdra anhygoel. Ac mae'n rhaid i ni fynd ymhellach. Y nod yw sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cyrraedd pob cornel o'r tirwedd cyfryngol newydd - yr iaith ar daith."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Effeithiau gor ymarfer mewn pel-droed