Braf yw cael cyfweld a merch ifanc sy'n dechrau ar ei gyrfa ym myd cadwraeth. Mae Rhiannon yn byw yn Abertawe ac yn gweithio yn swyddfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn Nhondu ger Penybont-ar-Ogwr.
Yn ddyddiol, mae'n ceisio sicrhau bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi a diogelu ein dyfroedd o afonydd i neintydd, llynnoedd a phyllau. Dros yr haf, fodd bynnag, dechreuodd arwain teithiau tywys o amgylch gwarchodfa Parc Slip trwy gyfrwng y Gymraeg. Er nad oedd hi'n sicr y byddai unrhyw un yn dod, ar y noson gyntaf, daeth dros ugain o bobol ac ers hynny, mae'r niferoedd wedi parhau i gynyddu.
Mae gwarchodfa Parc Slip wedi ei leoli ar hen with glo. Canrif yn 么l, byddai'r safle'n fwrlwm o s诺n a phobol a byddai llygredd yn golygu na fyddai fawr o fywyd gwyllt i'w weld yno.
Erbyn heddiw, mae'r lle wedi newid yn llwyr a cheir digonedd o fywyd gwyllt trwy'r flwyddyn. Mae'r hen gamlas, a phyllau mwy diweddar, yn gartref i'r madfallod dwr cribog (great crested newt), creaduriaid prin iawn yng Nghymru, ac yn y gwanwyn bydd llyffantod a brogaod yn ymgasglu yno i ddodwy eu grifft.
madfall d诺r cribog
Mae ieir dwr yn gyffredin yno, yn ogystal 芒 chorhwyaid (teal) ac, yn y gaeaf, rhegen y d诺r (water rail) ac ambell i aderyn y bwn (bittern). Yn y gwanwyn, un o'r gobeithion mawr yw denu mwy o barau o gornchwiglod (lapwings) i nythu a chadw'r amrywiaeth o degeirianau, gan gynnwys tegeirian y gwenyn (bee orchid).
Eleni, adeiladwyd cuddfan newydd yn edrych i lawr ar byllau bas sydd wedi cael eu hadeiladu i ddenu rhydyddion. Gyda chymaint o fywyd gwyllt, does dim rhyfedd bod pobol yn llifo i'r warchodfa yn eu cannoedd a gyda naturiaethwyr ifanc fel Rhiannon yn helpu i ddiogelu'r safle, mae'r dyfodol yn edrych yn ddiogel iawn.
听